Polisi, gweledigaeth a thargedau
Effeithiau amgylcheddol
Canolbwyntio ar drafnidiaeth
Gweithio gydag eraill
Gweithio gydag erraill
*   Ein Budd-ddeiliaid
*   Ein Partneriaethau
 
Fel busnes dosrannu, rydym yn canolbwyntio ar gysylltiadau a phobl. Rydym yn un o'r ychydig fusnesau sy'n cyrraedd pob cymuned yn y DG.

Ein budd-ddeiliaid 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnwys materion yn ymwneud â budd-ddeiliaid yn ein rhaglen amgylcheddol.

Mae ein budd-ddeiliaid yn niferus ac amrywiol. Mae pob unigolyn yn y DG yn cynrychioli mwy nag un grŵp o fudd-ddeiliaid, ein cwsmeriaid ni ydyn nhw ac maen nhw'n byw yn y cymunedau lle'r ydym yn gweithredu a lle mae ein heffeithiau amgylcheddol yn cael eu teimlo.

Rydym eisoes yn ymwneud â llawer o'r budd-ddeiliaid hyn a bellach mae'n bolisi gennym i gynnwys materion amgylcheddol yn y trafodaethau hyn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd Cynllun Deialog Budd-ddeiliaid ei baratoi, er mwyn adnabod ein budd-ddeiliaid amgylcheddol, nodi sut ydym yn cysylltu â nhw ar hyn o bryd a sut mae angen i ni ddatblygu deialog er mwyn gofalu fod materion amgylcheddol yn cael sylw. Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno'n raddol ac yn ein caniatáu i ofalu bod barn ein budd-ddeiliaid yn cael ei chlywed wrth i ni wneud penderfyniadau.

   
  Brig

Ein Partneriaethau 

Dros y blynyddoedd rydym wedi datblygu cysylltiadau cryf â nifer o gyrff allanol, sy'n ein helpu i symud tuag at gynaladwyedd.

Fforwm ar gyfer y Dyfodol
Rydym yn un o'r partneriaid corfforaethol a sefydlodd Fforwm ar gyfer y Dyfodol. Mae'r Fforwm yn sefydliad anllywodraethol sy'n cynnig datrysiadau i ddatblygu cynaladwy corfforaethol ac mae wedi darparu mewnbwn ac arweiniad ar gyfer llawer o'n mentrau a chynlluniau amgylcheddol.

Cyswllt i www.forumforthefuture.org.uk

Coed Cadw
Rydym hefyd yn aelodau corfforaethol o Goed Cadw, sef prif elusen cadw coetiroedd y DG. Mewn partneriaeth â Choed Cadw, rydym wedi sefydlu deg Coetir Mileniwm y Post Brenhinol er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth a darparu cyfleusterau hamdden i gymunedau lleol.

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi prosiect Ffenoleg Coed Cadw . Ledled y DG mae pobl wedi bod yn cofnodi newidiadau yng nghalendr natur, megis y gwcw gyntaf neu'r blodau drain duon cyntaf, er mwyn helpu deall sut mae cynhesu byd-eang yn effeithio ar y byd naturiol. Rydym wedi bod yn annog ein staff i ddod yn gofnodwyr, ac mae llawer ohonyn nhw allan ym mhob tywydd ac yn cael profiad personol o'r newidiadau sy'n digwydd.

Cyswllt i www.woodland-trust.org.uk

 

 

Aelod o Goed Cadw yn plannu coeden

Woodland Trust logo

    Brig
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg