| |



 |
|
 |
|
Trafnidiaeth a'r defnydd o danwydd
Cynlluniau ar gyfer cerbydau tanwydd amgen
Trafnidiaeth a'r defnydd o danwydd
Mae ein heffeithiau amgylcheddol mwyaf sylweddol yn berthynol i'n fflyd helaeth o gerbydau, a oedd yn gyfrifol am allyrru 424,445 tunnell o CO2 yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Dros y 12 mis diwethaf, mae'r adolygiad o'n gweithrediadau trafnidiaeth amlfodd wedi golygu bod ein gweithrediadau pellter canolig i bellter hir yn cael llawer llai o effaith ar yr amgylchedd. Mae 19% yn llai o allyriadau'n deillio o'n gweithrediadau pell fel canlyniad i rwydwaith ailstrwythuredig sy'n gwneud llai o ddefnydd o'r ffyrdd, mwy o ddefnydd o awyrennau a dim trenau.
Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig i'n fflyd drafnidiaeth yn ein datganiad newyddion diweddaraf am drafnidiaeth.
Rydym yn dal i hyrwyddo a mabwysiadu arferion gorau'r diwydiant er mwyn gwella perfformiad amgylcheddol ein fflyd. Er enghraifft, rydym wedi: hyfforddi gyrwyr, lobïo am isadeiledd tanwydd amgen a phennu safonau amgylcheddol ar gyfer rhagofynion cerbydau. Rydym hefyd yn cynnwys mesurau lleihau sŵn ar gyfer cyfarpar megis drysau rholio-gau. |
|

|
|
|
 |
|
Cynlluniau ar gyfer cerbydau tanwydd amgen
Mae defnyddio cerbydau tanwydd amgen - nwy a thrydan - bellach yn rhan annatod o'n strategaeth drafnidiaeth ac rydym yn cynyddu nifer y cerbydau hyn i gymryd lle cerbydau diesel pan fo cyfle i wneud hynny. Mae'r cerbydau hyn yn cael eu defnyddio yn bennaf mewn dinasoedd, a chawsant eu cyflwyno er mwyn mynd i'r afael â llygredd aer lleol.
Byddwn yn dal i ymchwilio, gyda phartneriaid pan fo hynny'n briodol, y defnydd o gerbydau tanwydd amgen a'r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer peiriannau, er mwyn bod yn llai dibynnol ar danwydd anadnewyddadwy pan fo hynny'n bosib. Bydd hyn yn cynnwys cynnal profion gyda thanwydd amgen megis Nwy Petroliwm Hylifol (LPG), Nwy Naturiol Cywasgedig (CNG), trydan a hydrogen. Yn ystod haf 2003 byddwn yn caffael 175 cerbyd LPG ychwanegol i'w defnyddio mewn dinasoedd er mwyn mynd i'r afael â phroblemau ansawdd aer lleol.
Fodd bynnag, mae cerbydau diesel yn dal i chwarae rhan allweddol yn ein gwaith. Mae'r rhan fwyaf o'r fflyd gerbydau'n rhedeg ar Diesel Sylffwr Tra Isel, ac mae systemau ôl-driniaeth ar gyfer nwyon llosg yn cael eu gwerthuso. Mae'r safonau allyriannau "Ewro" llym wedi cau'r bwlch yn gyflym rhwng yr allyriannau o gerbydau diesel a thanwydd amgen.
|
|
|
|
|
 |
Pŵer beic
Mae beiciau'n rhan helaeth o fflyd y Post Brenhinol, gyda thros 37,000 yn cael eu defnyddio yn ein gweithrediadau.
Unwaith y byddwn ni'n rhoi'r gorau i ddefnyddio beic, caiff y beic hwnnw ei ailgylchu.
Gan weithio gyda'r elusennau Re-Cycle ac Afribike, rydym wedi cyfrannu 1,800 o feiciau wedi'u hadnewyddu yn 2003 - 04 i bobl sy'n byw mewn cymunedau anghysbell yn Ne Affrica.
Mae'r beiciau'n galluogi plant ac oedolion i fynd i'r gwaith a'r ysgol ac i gasglu siopa o farchnadoedd lleol yn gyflymach a rhatach.
Aeth y Gweinidog dros Fasnach, Richard Caborn, i Johannesburg i drosglwyddo'r 2000fed beic ar ddiwedd 2000. Dywedodd: "Mae hyn yn enghraifft ragorol o'r hyn rydym yn awyddus i gymell cwmnïau i'w wneud, i roi'r cysyniadau pwysig o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac ymwybyddiaeth amgylcheddol ar waith mewn ymdrechion buddiol a sylweddol." |
|
 |
|
|
 |
Bysus y Post
Mae bysus y post yn cynnig gwasanaeth unigryw ar gyfer y post a theithwyr ac yn hollbwysig ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell.
Mewn rhai mannau, gwasanaeth bws y post yw'r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael ac mae'n chwarae rhan bwysig o ran cyflawni ein hymrwymiad i wasanaethu'r gymuned gyfan.
Mae mwy o'n cerbydau'n cael eu haddasu i'w defnyddio gan bobl ag anableddau. Gall rhai gymryd cadeiriau olwyn a byddwn yn dal i adolygu ac addasu cerbydau er mwyn darparu mynediad haws i'n holl gwsmeriaid.
Gall Bws y Post gario hyd at 5,000 o deithwyr y flwyddyn a theithio hyd at 50,000 o filltiroedd.
|
|

|
| |
| |
|
 |
|