Polisi, gweledigaeth a thargedau
Effeithiau amgylcheddol
Cyflenwyr
Ynni a dŵr
Gwastraff
Allyriannau i’r aer
Cydymffurfio
Effeithiau lleol
Cynhyrchion a gwasanaethau
Canolbwyntio ar drafnidiaeth
Gweithio gydag eraill
 
Cynhyrchion a gwasanaethau

Rydym yn ymwybodol o'n swyddogaeth ehangach mewn cymdeithas a sut y gallwn weithio ar draws sectorau i gefnogi amcanion ynghylch gwastraff ledled y DG.

Mewn ymateb i alwadau'r Llywodraeth ar i'r cynhyrchwr fod yn gyfrifol am bost hysbysebu, mae'r Post Brenhinol wedi cynnal trafodaethau â'r gwahanol gyrff sy'n cynrychioli'r diwydiannau marchnata uniongyrchol, argraffu a phapur, yn ogystal â Phwyllgor Ymgynghorol Awdurdodau Lleol ar Ailgylchu a Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) y Llywodraeth. Fel canlyniad, mae'r sector marchnata uniongyrchol wedi cynnig targed gwirfoddol i adfer 67% o'r post hysbysebu mewnwladol erbyn 2015 a bydd cod ymarfer ar gyfer cyfrifoldeb y cynhyrchwr yn cael ei lunio.

Fel cwmni dosrannu, rydym hefyd yn datblygu amrediad o ddatrysiadau pacio, i'n cwsmeriaid ac i'w defnyddio'n fewnol. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys Stampiau Hunanlynol, Amlenni Ailgyfeirio a Safebox. Wrth gynllunio'r rhain, rydym yn ystyried yr effeithiau amgylcheddol, a phan fo hynny'n bosibl byddwn yn cynnwys datrysiadau amgylcheddol, megis eu gwneud yn ailgylchadwy. Mae ein gweithgaredd yn y maes hwn yn golygu ein bod yn rhwym wrth Rwymedigaethau Cyfrifoldeb y Cynhyrchwr (Gwastraff Pacio). Rydym yn diwallu'r rhwymedigaeth hon trwy berthyn i gynllun cydymffurfio ar gyfer pacio.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda'n datblygwyr cynhyrchion mewnol, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r angen i gynnwys ystyriaethau amgylcheddol wrth gynllunio cynnyrch yn ogystal ag ystyried cynhyrchion y gallem eu datblygu ac a allai ddarparu datrysiadau amgylcheddol i'n cwsmeriaid.

   
    Brig
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg