|
Mae ein gwasanaeth ledled y DG yn golygu ein bod yn gweithredu ym mhob cymuned. Mae bod yn gymydog da i bob un o'r cymunedau hyn yn bwysig i ni ac rydym yn ymwybodol o lawer o'n heffeithiau lleol. Yn aml cânt eu cysylltu â'n fflyd drafnidiaeth neu ein hadeiladau, ond mae'r rhan fwyaf o sylwadau a gawn yn ymwneud â rhwymynnau rwber!
Rydym wedi pennu safonau mewnol ac wedi datblygu nifer o gynlluniau er mwyn lleihau effeithiau amgylcheddol. Cafodd rhai eu rhestru isod:
- Effeithiau'r Fflyd. Rydym wedi cyflwyno nifer o gerbydau sy'n
defnyddio tanwydd amgen, mewn ardaloedd lle mae ansawdd yr aer
lleol yn broblem. Fel rhan o'u rhaglen hyfforddiant, mae ein gyrwyr
yn dysgu sut mae gyrru gwael, gwastraffu adnoddau a phroblemau
gwaredu cerbydau a'u cydrannau yn effeithio ar yr amgylchedd.
- Adeiladau. Rydym yn ceisio gofalu bod lleoliad ein canolfannau
a chyfleusterau eraill yn cael cyn lleied o effaith â phosibl
ar y rhwydweithiau ffyrdd a chartrefi o'u hamgylch. Ar yr un pryd
rydym yn ceisio gofalu bod teithio'n cael cyn lleied o effaith
â phosibl ar ein cwsmeriaid a gweithwyr - ac felly ar yr
amgylchedd.
- Bioamrywiaeth. Rydym yn asesu'r effaith ar yr amgylchedd pan
fyddwn yn codi neu'n adnewyddu unrhyw adeilad, ac yn ystyried
bioamrywiaeth. Rydym hefyd yn cydweithio â Choed Cadw i
gefnogi bioamrywiaeth.
|
|
 |