Polisi, gweledigaeth a thargedau
Effeithiau amgylcheddol
Cyflenwyr
Ynni a dŵr
Gwastraff
Allyriannau i’r aer>
Cydymffurfio
Effeithiau lleol
Cynhyrchion a gwasanaethau
Canolbwyntio ar drafnidiaeth
Gweithio gydag eraill
 
Allyriannau i'r aer

Mae gweithrediadau dosbarthu, teithio busnes personol a rhedeg ein hadeiladau i gyd yn cyfrannu'n sylweddol at allyriadau carbon deuocsid i'r atmosffer.

Rydym yn gwneud ymdrech ym mhob un o'r meysydd hyn er mwyn lleihau allyriadau a gallwch weld enghreifftiau o'r hyn sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'n fflyd a'n hadeiladau ledled y safle hwn.

Er nad yw ar yr un raddfa ag allyriadau fflyd ac adeiladau, mae teithio busnes personol yn cynhyrchu CO2 sylweddol. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno gwasanaeth e-gyfarfod i'n gweithwyr a rhwydwaith o gyfleusterau cynadledda fideo a sain er mwyn lleihau teithiau busnes i gyfarfodydd. Rydym yn bwriadu dilyn buddion amgylcheddol y cynllun hwn, yn ogystal â'r gostyngiad mewn costau teithio.

Mae gennym nifer o gynlluniau cymudo gwyrdd mewn grym ledled y DG ac rydym yn ystyried cynnwys rhagor o safleoedd.

Mae halonau o ddiffoddwyr tân hefyd yn cyfrannu'n sylweddol i nwyon tŷ gwydr. Cyn y ddeddfwriaeth sydd i fod i ddod i rym yn 2003, rydym eisoes wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio diffoddwyr tân sy'n defnyddio halonau.

  Faniau'r Post Brenhinol mewn depo

    Brig
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg