Polisi, gweledigaeth a thargedau
Effeithiau amgylcheddol
Cyflenwyr
Ynni a dŵr
Gwastraff
Allyriannau i’r aer
Cydymffurfio
Effeithiau lleol
Cynhyrchion a gwasanaethau
Canolbwyntio ar drafnidiaeth
Gweithio gydag eraill
Gwastraff
Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio adnoddau yn ofalus ac ailddefnyddio ac ailgylchu pan fo hynny'n ymarferol. Rydym yn dal i fod yn gysylltiedig ag amrediad o weithgareddau rheoli gwastraff ac ar hyn o bryd rydym yn datblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer rheoli gwastraff. Bydd hyn yn cynnwys monitro systemau a thargedau ar gyfer gwastraff yn gyffredinol, gan ganolbwyntio ar y gwastraff sydd fwyaf o werth, megis papur, peiriannau a chyfarpar TG.

Isod, fe welwch enghreifftiau o rai o'n mentrau rheoli gwastraff:

  • Beiciau. Wrth i ni newid ein beiciau mae'r hen rai'n cael eu rhoi i elusennau er mwyn eu hadnewyddu a'u hanfon i Affrica, lle gallan nhw wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol. Mae hyn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Re-cycle ac yn 2003 - 04 cafodd 1,800 o'n beiciau eu hailgylchu allan o'n fflyd o 36,500.
  • Iwnifformau. Mae hen iwnifformau'r 160,000 o staff y Post Brenhinol yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd, gan gynnwys cael eu hailddefnyddio yng ngwledydd y trydydd byd, fel padin ar gyfer seddau ceir neu fel clytiau sychu mewn argraffdai!
  • Cyfrifiaduron. Dydy ei hen gyfrifiaduron ddim yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi, ond yn cael eu hadnewyddu er mwyn eu hailddefnyddio, neu mae darnau'n cael eu hailgylchu. Hefyd, sefydlwyd cynllun ledled y DG er mwyn ailgylchu cetris arlliw o'n swyddfeydd.
  • E-fentrau. Mae llawer o'n e-fentrau o fudd amgylcheddol. Mae disgwyl i brosiect signet, a fydd yn golygu bod gyrwyr yn defnyddio dyfais fach yn hytrach na gorfod gwneud gwaith papur, yn arbed 50,000 dalen o bapur y flwyddyn a fyddai yn y pen draw yn wastraff.
 

 

 

 

 

 

Beiciau
    Brig
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg