| Mae rheoli effeithiau amgylcheddol bron i 3000 o adeiladau a 40,000 o gerbydau, trwy ddefnyddio adnoddau yn effeithlon, yn gwneud synnwyr o ran rhedeg busnes.
Rydym wedi cyflwyno system newydd i reoli ynni a dŵr mewn 400 o'n prif adeiladau, sy'n gyfrifol am dros 50% o'r defnydd. Dros amser byddwn yn cynyddu nifer y safleoedd sy'n rhan o'r system hon. Trwy gyfrwng y system gallwn fesur y defnydd o ynni a dŵr, adnabod safleoedd sy'n perfformio'n wael a thargedu ein gweithgareddau yn y safleoedd hyn. Byddwn yn cynnal arolygon ynni mewn 150 o'r safleoedd hyn ac yna, yn seiliedig ar y canlyniadau, yn datblygu a defnyddio cynlluniau gweithredu, gan gynnwys ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth yn fewnol.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, gan geisio derbyn 10% o'n hynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2010. Eisoes rydym yn cael 1.5% o ffynonellau adnewyddadwy ardystiedig. Yn ogystal â'r targed hwn, rydym ar hyn o bryd yn gweithredu 31 o orsafoedd gwres a phwer cyfunol (CHP) ar amryw o safleoedd ledled y DG. |
|
|