Polisi, gweledigaeth a thargedau
Effeithiau amgylcheddol
Cyflenwyr
Ynni a dŵr
Gwastraff
Allyriannau i’r aer
Cydymffurfio
Effeithiau lleol
Cynhyrchion a gwasanaethau
Canolbwyntio ar drafnidiaeth
Gweithio gydag eraill
 
Siarter datblygu cynaladwy

Grŵp Y Post Brenhinol ccc: Siarter Datblygu Cynaladwy - Prynu

Fel cwmni rydym yn gofidio ynghylch effaith ein gweithrediadau ar ein budd-ddeiliaid a chenedlaethau'r dyfodol. Ein nod yw atal niwed a cholledion i'n pobl, darparu amgylchedd iach i'n cydweithwyr a chymunedau, a gofal o safon fyd-eang i'n gweithlu. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni gael partneriaeth â'n cyflenwyr er mwyn symud ymlaen tuag at ddatblygu cynaladwy corfforaethol. Mae'r Siarter hon yn ein hymrwymo i fod yn sefydliad â chyfrifoldeb cymdeithasol sy'n defnyddio llai o adnoddau terfynedig, ac yn annog cyflenwyr i wella eu perfformiad amgylcheddol.

Diffiniad Datblygu Cynaladwy - wrth wraidd hyn mae'r syniad syml o sicrhau gwell ansawdd bywyd i bawb - nawr ac i genedlaethau'r dyfodol. Mae'n golygu diwallu pedwar amcan allweddol ar yr un pryd yn y DG a'r byd yn eu cyfanrwydd:
  • Cynnydd cymdeithasol sy'n cydnabod anghenion pawb
  • Gwarchod yr amgylchedd yn effeithiol
  • Defnyddio adnoddau naturiol yn gall
  • Cynnal lefelau uchel a sefydlog o dwf economaidd a chyflogaeth
Gofal Cymdeithasol Corfforaethol - deall a rheoli'r effaith sydd gan gwmni ar y byd o'i amgylch fel rhan o'i weithgareddau busnes craidd.
Ymrwymiad y Post Brenhinol i Ddatblygu Cynaladwy Ein hamcanion amgylcheddol yw:

  • Defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy
  • Lleihau:
    • Ein defnydd o ddŵr
    • Ein defnydd o danwydd ar gyfer fflyd y Grŵp
    • Allyriannau CO2 o'n gweithrediadau
    • Cyfanswm y gwastraff solet sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
    • Cyfanswm y defnydd pacio a ddefnyddiwn
    • Cyfanswm yr ynni a ddefnyddiwn yn ein hadeiladau
Ein hymrwymiad, wrth brynu, i'r amgylchedd ac i faterion masnachu moesegol Ein hamcan yw gweithio gyda'n cyflenwyr i leihau effaith ein gweithrediadau cyfunol trwy ymagwedd unedig i'n polisi prynu, yn ogystal â datblygu, pan fo hynny'n ymarferol, cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy'n ceisio sicrhau mwy o gynaladwyedd.
  • Trwy broses flynyddol Gwobrau Cyflenwr Dosbarth Cyntaf y Post Brenhinol, mesur a chydnabod yr hyn y mae ein cyflenwyr wedi'i gyflawni a'u cyfraniad i ddatblygu cynaladwy.
  • Trwy Wobr Henry Fawcett, cydnabod cyflawniad cyflenwyr ym meysydd anabledd a gweithredu yn y gymuned.
    • Cydnabod, trwy'r Wobr Datblygu Cynaladwy, y cyflenwr sydd orau o ran rheoli effaith ei weithrediadau ar ein planed ac sy'n cymryd camau positif i leihau'r effaith honno.
    • Byddwn yn disgwyl i'r cyflenwyr gydymffurfio â safonau'r Mudiad Llafur Rhyngwladol ym mhob cam o'r gadwyn gyflenwi.
  • Bydd Grŵp Llywio Amgylcheddol yn cynnal adolygiad parhaus o faterion datblygu cynaladwy yn y Gadwyn Gyflenwi.

Yn ôl 
 
  Brig 
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg