|
Mae ein siarter datblygu cynaladwy yn amlinellu ein hymrwymiad i'r amgylchedd ac i fasnachu moesegol. Mae'r siarter yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu strategaethau prynu er mwyn lleihau ein holion carbon a'n gwastraff a chymell ein cyflenwyr i weithredu ein safonau datblygu cynaladwy.
Mae'r siarter hefyd yn ein hymrwymo i fesur gallu ein cyflenwyr i ddatblygu'n gynaladwy trwy gyfrwng ein rhaglen cyflenwyr dosbarth cyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth, a fyddech cystal â darllen fersiwn llawn ein Siarter datblygu cynaladwy.
Eleni rydym wedi adolygu ein hasesiad amgylcheddol o'n cadwyn gyflenwi i adlewyrchu'r pwyslais sy'n cael ei roi erbyn hyn ar ddatblygu cynaladwy ledled y DG. Mae ein hymrwymiad i'r cyfeiriad hwn yn amlwg oherwydd 'cynaladwyedd' erbyn hyn yw un o'r saith prif faen prawf ar gyfer mesur perfformiad yr holl gyflenwyr sy'n cymryd rhan yn ein rhaglen gwobrwyo cyflenwyr dosbarth cyntaf. Mae'r wobr datblygu cynaladwy, sydd ar wahân, yn ystyried yr effaith y mae diwydiant cyflenwr yn ei gael a'r hyn mae cyflenwr yn ei wneud i leihau'r effaith ar yr amgylchedd. |