Polisi, gweledigaeth a thargedau
Effeithiau amgylcheddol
Cyflenwyr
Ynni a dŵr
Gwastraff
Allyriannau i’r aer
Cydymffurfio
Effeithiau lleol
Cynhyrchion a gwasanaethau
Canolbwyntio ar drafnidiaeth
Gweithio gydag eraill
Effeithiau a gweithgareddau amgylcheddol

Gyda 3000 o safleoedd, 40,000 o gerbydau a thros 200,000 o weithwyr yn y DG, mae ein heffeithiau a gweithgareddau amgylcheddol yn eang. Rydym eisoes wedi cyflwyno'r safon ISO14001 mewn nifer o'n safleoedd ac rydym yn datblygu system reolaeth amgylcheddol i'w gweithredu ledled ein sefydliad.

Mae integreiddio materion amgylcheddol i ffyrdd o weithio ein busnes yn allweddol o ran sicrhau nad yw'r amgylchedd yn cael ei ystyried yn "rhywbeth i'w ychwanegu". Eisoes, rydym wedi cymryd camau i'r cyfeiriad hwn, er enghraifft:

  • Fel rhan o'n proses gwerthuso buddsoddiad, mae angen cwblhau datganiadau amgylcheddol ar gyfer unrhyw brosiect sy'n werth mwy na swm penodol ac unrhyw brosiect a fydd yn cael effeithiau amgylcheddol sylweddol.
  • Ymgorffori sganio amgylcheddol yn ein proses cynllunio busnes
  • Cydnabod llygredd amgylcheddol fel un o'r risgiau ledled y busnes ac felly sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys yn ein proses integredig o reoli risg
  • Cynnwys ystyriaethau amgylcheddol yn ein proses o ddewis cyflenwyr
  • Gweithio gyda'n timau datblygu cynnyrch er mwyn darganfod sut y gallwn gynnwys materion amgylcheddol yn ein proses o ddatblygu cynhyrchion newydd.

Rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau mewnol i godi ymwybyddiaeth, er mwyn gofalu bod ein gweithwyr yn ymwybodol o'n hymrwymiad i'r amgylchedd a'r prosesau sydd gennym i reoli ein heffeithiau.

Yn fwy penodol, rydym yn effeithio ar yr amgylchedd mewn sawl ffordd, a restrir isod, ynghyd â rhai o'r ffyrdd rydym yn eu defnyddio i'w rheoli:

   
    Brig
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg