| |



 |
|
 |
|
Polisi amgylcheddol y Post Brenhinol
Ein gweledigaeth
Ein targedau
YYn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau sylweddol i fwrw ymlaen â'r agenda amgylcheddol oddi mewn i'n sefydliad. Wrth adeiladu ar amrediad o fentrau amgylcheddol, rydym wedi cydnabod yr angen i integreiddio'r rhain i ymagwedd "busnes fel arfer" a'u cydlynu ar lefel fusnes-eang.
Isod, mae ein hail adroddiad allanol sy'n ymwneud â'n gweithgareddau a'n cynnydd ym maes Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) - a gyhoeddwyd ym mis Medi 2004.
Adroddiad CCC Grwp y Post Brenhinol ccc 2005
(Adobe Version 7 PDF - 3.23Mb)
Mae’r fersiwn hwn yn hygyrch i ddefnyddwyr â darllenwyr sgrin a dyfeisiau darllen anweledol eraill
Adroddiad CCC Grwp y Post Brenhinol ccc 2005
(Adobe Version 5 PDF - 3.23Mb)
Cyhoeddwyd ein hadroddiad Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd cyntaf ym mis Medi 2003 ac fe'i cysylltwyd isod.
Adroddiad Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd 2003
(PDF - 1.4Mb)
|
|
|
|
|
 |
|
Polisi amgylcheddol y Post Brenhinol
Ein gwerthoedd
Rydym wedi ymrwymo'n gadarn i wella ei elw a gwerth ei frandiau, ond bydd ein hanghenion masnachol yn ceisio dal y fantol rhwng hyn ac ystyriaethau amgylcheddol, ansawdd bywyd a thegwch cymdeithasol.
Rydym yn cydnabod fod ein gweithgareddau a pholisïau busnes yn effeithio ar yr amgylchedd. Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau amgylcheddol ein polisïau wrth gynllunio, gwneud penderfyniadau, a chynnal gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Rydym yn cydnabod ac yn rhoi gwerth ar ein safle unigryw mewn cymdeithas sy'n deillio o:
- Ein hetifeddiaeth
- Ein brandiau dibynadwy
- Ein gwasanaeth ledled y DG trwy gyfrwng ein canghennau a gwasanaethau dosbarthu.
Mae diogelu'r sefyllfa unigryw hwn a chynnal cysylltiadau positif â budd-ddeiliaid yn hanfodol i'n busnes a byddwn yn ceisio dangos yn glir ein bod yn gwmni sy'n gyfrifol yn amgylcheddol.
Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o ddatblygu cynaladwy. Byddwn yn ceisio cyfrannu at nodau datblygu cynaladwy cenedlaethol a lleol. Trwy wella economïau, gweithredu â chyfrifoldeb cymdeithasol a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd gallwn helpu i greu byd lle gall ein cwmni ffynnu nawr ac yn y dyfodol. |
|
|
Ein Hamcanion Polisi
Amcan cyffredinol y polisi amgylcheddol yw gwerthuso a cheisio lleihau ein heffeithiau amgylcheddol. Gellir crynhoi'r amcanion polisi fel a ganlyn:-
- Integreiddio ystyriaethau amgylcheddol a chymdeithasol i benderfyniadau busnes a phennu dangosyddion perfformiad perthnasol ynghyd â mesurau allweddol a thargedau gwella cysylltiol.
- Datblygu a gweithredu fframweithiau rheoli sy'n sicrhau safonau uchel o berfformiad amgylcheddol.
- Cydymffurfio â phob deddfwriaeth a rheolau amgylcheddol perthnasol a cheisio diwallu a gwneud yn well na'r safonau priodol o ran arferion da amgylcheddol.
- Hyrwyddo tryloywder trwy gael atebolrwydd amgylcheddol pendant a chyhoeddi gwybodaeth berthnasol ynghylch ein perfformiad amgylcheddol yn flynyddol.
- Defnyddio llai o ddefnyddiau yn ein gweithrediadau, ailddefnyddio yn hytrach na chael gwared pan fo hynny'n bosibl a hyrwyddo ailgylchu a defnyddio defnyddiau wedi'u hailgylchu.
- Hyrwyddo bod yn ofalus wrth ddefnyddio tanwydd, ynni, dŵr, defnyddiau crai ac adnoddau eraill, gan gynnwys gwneud defnydd cynyddol o ffynonellau ynni adnewyddol.
- Lleihau gwastraff ac arllwysiadau i ddŵr codi neu ddŵr wyneb.
- Pan fo hynny'n ymarferol bosibl, lleihau lefel yr allyriadau niweidiol o'n cerbydau, adeiladau ac offer.
- Cymell pob gweithiwr i barchu'r amgylchedd wrth weithio, darparu hyfforddiant pan fo hynny'n briodol a chynnwys materion amgylcheddol yn ystod trafodaethau â chynrychiolwyr ein gweithwyr a grwpiau budd-ddeiliaid.
- Cefnogi, trwy gyfrwng ein rhaglenni cymunedol, hyrwyddo rheolaeth amgylcheddol gweithredol â grwpiau a sefydliadau allanol perthnasol.
- Gweithio gyda'n cyflenwyr i leihau effaith eu gweithrediadau trwy gael partneriaeth o ran ein polisi prynu a datblygu, pan fo hynny'n ymarferol, gynhyrchion a gwasanaethau newydd, sy'n ceisio mwy o gynaladwyedd.
|
|
 |
Cyfrifoldebau amgylcheddol
Yn y pen draw, aelod y Bwrdd Gweithredol dros Ddatblygu Trefniadaeth a Phobl sydd yn gyfrifol i'r Bwrdd am bolisi a pherfformiad amgylcheddol. Rheolir y cyfrifoldeb gweithredol hwn gan y Pennaeth Amgylchedd, sydd, fel Deiliad Polisi'r Grŵwp dros yr Amgylchedd, â chyfrifoldeb dros ddatblygu a chyflwyno polisi amgylcheddol ar draws y Grŵp.
Cwmpas
Mae gan ein holl weithwyr gyfrifoldeb i gefnogi nodau'r Polisi Amgylcheddol a'i weithredu. Mae'r polisi hwn yn berthnasol ledled y Grŵp,
Cyfathrebu a gweithredu
Caiff y polisi hwn ei drosglwyddo a'i weithredu yn raddol ledled y busnes trwy sefydlu rhwydwaith o bobl sy'n amgylcheddol gymwys, trwy ddefnyddio prosesau busnes sy'n bodoli pan fo hynny'n briodol. |
|
 |
|
|
 |
|
Ein gweledigaeth
Mae ein polisi amgylcheddol yn fan cychwyn, ac rydym eisoes yn symud ymlaen. Yn ogystal, mae'r diagram isod yn amlinellu ein gweledigaeth mewn pum cam i'n symud ymlaen tuag at ddatblygu cynaladwy corfforaethol, ac rydym eisoes wedi cyrraedd yr ail gam.
Gweledigaeth CSR mewn pum cam (PDF - 73Kb)
|
|
|
|
|
 |
|
Ein targedau
Rydym yn cydnabod yr angen i ddangos ein bod yn gwella o hyd ac i fesur ein perfformiad ar y daith tuag at gynaladwyedd corfforaethol. Rydym wedi pennu chwe tharged craidd sy'n adlewyrchu ein prif effeithiau amgylcheddol. Rydym wedi ymrwymo i adrodd am berfformiad yn ôl y targedau hyn ac mae'r her yn dechrau yma: Ein targedau amgylcheddol
- Gostyngiad o 10% dros 5 mlynedd yn y defnydd o ynni mewn adeiladau
- Cynnydd graddol yn y defnydd o ynni adnewyddadwy, gan godi i 10% erbyn 2010.
- Gostyngiad o 5% dros 5 mlynedd yn y defnydd o ddŵr.
- Gostyngiad o 5 % y flwyddyn yn y tanwydd sy'n cael ei ddefnyddio gan fflyd y grŵp.
- Gostyngiad o 5% dros gyfartaledd treiglol am 3 blynedd mewn allyriadau CO2 sy'n deillio o'r gweithrediadau dosbarthu.
- Gostyngiad o 5% mewn gwastraff solet yn seiliedig ar dreth dirlenwi o'r naill flwyddyn i'r llall.
Ar hyn o bryd mae gennym systemau mesur ar gyfer nifer o'r targedau hyn ac rydym yn ceisio sicrhau y bydd y gweddill mewn grym ac y bydd y mesuriadau'n gadarn, ar gyfer diwedd Mawrth 2004. |
|
|
| |
|
|
| Mae'r dogfennau hyn yn ffeiliau PDF files a bydd angen Adobe Acrobat Reader fersiwn 5.0 neu uwch i'w darllen. Er mwyn llwytho i lawr am ddim, defnyddiwch y cyswllt hwn i ymweld â gwefan Adobe site www.adobe.com.
Rhybudd: Mae rhai o'r ffeiliau hyn yn fawr, ac felly gallai gymryd peth amser i'w llwytho i lawr. |
|
|
| |
|
|
 |
|