Gwybodaeth Gyfreithiol Bwysig

Diogelwch
Mae'r Post Brenhinol yn cymryd diogelwch a phreifatrwydd ei systemau a data ei gwsmeriaid o ddifrif. Rydym yn adolygu'n systemau a'n data yn gyson er mwyn sicrhau'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid. Mae'r Senedd wedi creu troseddau penodol ar gyfer gweithredoedd heb awdurdod yn erbyn systemau cyfrifiadurol a data. Bydd y Post Brenhinol yn ymchwilio i'r cyfryw weithredoedd gyda'r bwriad o erlyn a/neu weithredu'n sifil i adfer iawndal gan y sawl sy'n gyfrifol.

Eithriadau a Chyfyngiadau
Darperir y wybodaeth ar y wefan hon ar sail "fel ag y mae". Yn gymaint ag y mae'r gyfraith yn ei ganiatáu, mae'r Post Brenhinol:

  1. yn nacáu pob cynrychiolaeth a gwarantiad sy'n ymwneud â'r wefan hon, gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw anghywirdeb neu anwaith yn y wefan hon; ac
  2. yn nacáu pob atebolrwydd am iawndal sy'n codi o ganlyniad i neu sy'n gysylltiedig â'ch defnydd chi o'r wefan hon. Mae hyn yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled uniongyrchol, colli busnes neu elw (boed colli'r cyfryw elw yn rhagweladwy ai peidio, a ddigwyddodd yn arferol ai peidio neu a ydych wedi hysbysu'r Post Brenhinol o'r posibilrwydd o'r cyfryw golled bosibl ai peidio), neu unrhyw iawndal anuniongyrchol, canlyniadol a dilynol.

Nid yw'r Post Brenhinol, fodd bynnag, yn nacáu atebolrwydd ar gyfer marwolaeth neu niwed personol a achosir gan ei esgeulustod. Mae'r eithriadau a chyfyngiadau uchod yn berthynol i'r graddau a ganiateir gan y gyfraith yn unig. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.

Newidiadau i'r Cynnwys
Gall y Post Brenhinol newid cynnwys y wefan hon, gan gynnwys disgrifiadau a phrisiau nwyddau a gwasanaethau a hysbysebir, ar unrhyw adeg a heb rybudd.

Hysbysiadau am Nodau Masnach a Hawlfraint
Mae Post Brenhinol, croesffurf y Post Brenhinol, Parcelforce Worldwide ac arwydd Swyddfa'r Post yn nodau masnachu cofrestredig Grŵp y Post Brenhinol ccc yn y Deyrnas Gyfunol a gwledydd eraill. Mae enwau, nwyddau a gwasanaethau Grŵp y Post Brenhinol ccc sy'n ymddangos ar y wefan hon yn nodau masnachu Grŵp y Post Brenhinol ccc.
(h) Post Brenhinol 2003.

Cofrestrwyd Grŵp y Post Brenhinol yng Nghymru a Lloegr. Rhif cofrestredig: 4138203. Swyddfa Gofrestredig: 148 Old Street, LLUNDAIN, EC1V 9HQ.

Cysylltau i'r wefan hon
Ni chewch greu cyswllt i unrhyw dudalen ar y wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol Grŵp y Post Brenhinol ccc. Os ydych yn creu cyswllt i dudalen ar y wefan hon rydych yn gwneud hynny ar eich cyfrifoldeb eich hun a bydd yr eithriadau a chyfyngiadau a nodir uchod yn berthnasol i'ch defnydd o'r wefan hon trwy greu cyswllt iddi.

Cysylltau o'r wefan hon
Nid yw Grŵp y Post Brenhinol ccc yn monitro nac yn adolygu cynnwys gwefannau partïon eraill y cysylltir â hwy o'r wefan hon. Nid yw Grŵp y Post Brenhinol ccc o reidrwydd yn rhannu nac yn cefnogi unrhyw farn a fynegir neu ddeunydd sy'n ymddangos ar y cyfryw wefannau ac ni ddylid ystyried Grŵp y Post Brenhinol ccc yn gyhoeddwr y cyfryw farn neu ddeunydd.

Argaeledd
Oni ddatgenir i'r gwrthwyneb, dim ond oddi mewn i'r Deyrnas Gyfunol, neu mewn cysylltiad â phostio o'r Deyrnas Gyfunol mae'r cynhyrchion a'r gwasanaethau a restrir ar y wefan hon ar gael. Bwriedir pob hysbysebu ar gyfer marchnad y Deyrnas Gyfunol yn unig.

Cyffredinol
Rheolir y telerau hyn gan gyfreithiau Lloegr. Trwy gyrchu'r wefan hon rydych yn cydsynio â'r telerau hyn ac ag awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Lloegr mewn unrhyw anghydfod sy'n codi o'r cyfryw gyrchiad. Os dyfernir bod unrhyw rai o'r telerau hyn yn annilys neu anorfodadwy am ba reswm bynnag, (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r eithriadau a'r cyfyngiadau a nodir uchod) yna caiff y ddarpariaeth annilys neu anorfodadwy ei thorri allan o'r telerau hyn a bydd y telerau sy'n weddill yn parhau i fod yn berthnasol

 
   
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl.   Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg