Ein haddewid i chi
Yr hyn sydd heb ei gynnwys yn y polisi preifatrwydd hwn
Cyfraith preifatrwydd
Casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol
Datgelu gwybodaeth
Cysylltau
Mynediad i ddata personol
Diogelwch
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
 

Ein haddewid i chi  
Mae'r wefan hon yn eiddo i Grŵp y Post Brenhinol ccc ac yn cael ei gweithredu ganddo. Rydym yn ystyried eich preifatrwydd o ddifrif, ac er mwyn ei ddiogelu rydym yn cydymffurfio â'r egwyddorion yn y polisi hwn.

Yr hyn sydd heb ei gynnwys yn y polisi preifatrwydd hwn 
Dydy'r polisi hwn ddim yn ymwneud ag arferion cwmnïau nad yw Grŵp y Post Brenhinol yn berchen arnyn nhw neu'n eu rheoli, nac i bobl nad ydym yn eu cyflogi neu'n eu rheoli.

Cyfraith preifatrwydd  
Mae'r Post Brenhinol yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn bodloni'r safonau a'r canllawiau yn y Ddeddf.

Casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol  
O bryd i'w gilydd fe allem ofyn i chi am wybodaeth bersonol. Trwy ddarparu'ch gwybodaeth bersonol, rydych yn caniatáu i'r Post Brenhinol gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffordd a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn. Bydd manylion am y math o wybodaeth bersonol y gellir ei chasglu a sut y'i defnyddir yn cael eu hesbonio ar dudalennau perthnasol y wefan hon.

Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol heb roi cyfle i chi eithrio.

   

Datgelu gwybodaeth  
Ni fydd y Post Brenhinol yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol nac yn ei datgelu i rywun arall heb eich caniatâd, ar yr amod y gallwn ei datgelu oddi mewn i grŵp cwmnïau'r Post Brenhinol os yw hynny'n angenrheidiol ar gyfer gweithredu ein gwefan. Mae rhannau eraill o grŵp cwmnïau'r Post Brenhinol yn dilyn polisïau ac arferion preifatrwydd tebyg i'r polisi hwn.

Cysylltau  
Mae'r wefan hon yn cysylltu â safleoedd eraill. Rydym yn gwneud pob ymdrech i ddarparu cysylltau i safleoedd dibynadwy o ansawdd uchel. Fodd bynnag, dydym ni ddim yn gyfrifol am arferion preifatrwydd y safleoedd hyn a dydyn nhw ddim yn cael eu rheoli gennym o ddydd i ddydd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb dros eu defnydd o'ch data, cynnwys y safle na'r gwasanaethau a gynigir i chi gan y safleoedd hyn.

Mynediad i ddata personol 
Gallwch gysylltu â ni i ofyn pa ddata personol amdanoch sy'n cael eu cadw gennym trwy anfon e-bost at stuart.l.harvey@royalmail.com neu ysgrifennu at Stuart Harvey, Head of Data Protection Act Services, Royal Mail, Concept 2000, 250 Farnborough Rd, Farnborough, Hants, GU14 7LU. Byddwn wedyn yn darparu copi darllenadwy o'r data sydd gennym amdanoch yn gyfnewid am dâl o £10. Gallwch, wrth gwrs, ofyn i ni gywiro neu newid eich data personol.

   
   

Diogelwch  
Mae diogelwch yn bwysig dros ben i'r Post Brenhinol. Rydym wedi gweithredu technoleg a pholisïau, rheolau a mesurau er mwyn diogelu'r data personol sy'n cael eu rheoli gennym ar-lein ac all-lein rhag mynediad, defnydd, newid, dilead a cholled anghywir.

All-lein, mae eich holl wybodaeth bersonol yn cael ei gadw'n ddiogel yn ein swyddfeydd. Dim ond gweithwyr a chontractwyr sy'n cael mynediad i wybodaeth bersonol adnabyddadwy ac wedyn dim ond os oes arnyn nhw angen yr wybodaeth ar gyfer tasg awdurdodedig benodol.

Mae'r gweinyddion a ddefnyddir gennym i gadw gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael eu cadw'n ddiogel

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn 
Gall y Post Brenhinol newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd. Os gwnawn unrhyw newidiadau, rhoddwn wybod i chi drwy roi cyhoeddiad amlwg ar y wefan hon.

Diolch
Diolchi chi am ddarllen ein polisi preifatrwydd - gobeithiwn ei fod wedi rhoi atebion llawn i unrhyw gwestiynau oedd gennych am y ffordd rydym yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

   
 
   
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl.   Yn Saesneg