|
Hygyrchedd y wefan - ei gael yn iawn
Rydym yn gweithio ar wneud ein gwefannau yn fwy hygyrch gan ddilyn egwyddorion a sefydlwyd gan y Fenter Hygyrchedd Gwefannau (WAI). Gyda hyn mewn golwg, mae gennym gynllun i gyrraedd cydymffurfiad lefel 2 gyda'r Ddeddf Gwahaniaethu Anabledd.
Byddwch yn profi'r gwelliannau hyn wrth i ni wneud dyluniad a chynnwys pob un o'n gwefannau yn fwy hygyrch.
Mae gwefan Grŵp y Post Brenhinol yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, os hoffech gael y wybodaeth ar ffurf wahanol mae croeso i chi gysylltu â ni ar 08457 740 740 neu Ffôn Testun 08456 00 06 06 (Cymraeg 08456 030800).
Ymrwymiad Grŵp y Post Brenhinol i faterion cysylltiedig ag anabledd
Mae Grŵp y Post Brenhinol yn ymroddedig i adolygu hygyrchedd ein cynhyrchion a'n gwasanaethau o hyd, yn ogystal â mynediad i ganghennau Swyddfa'r Post ™.
Mae Grŵp y Post Brenhinol yn Aelod Cerdyn Aur o Fforwm y Cyflogwyr ar Anabledd (FCA) (gwefan Saesneg) ac mae'n Gyflogwr Two Ticks (gwefan Saesneg).
Gall ein gweithwyr a'n hisbostfeistri gael help a chyngor ar faterion cysylltiedig ag anabledd drwy'r Ganolfan Gweithredu Anabledd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Yn anffodus, ni fedrwn ateb pob neges e-bost yn bersonol, ond byddwn yn ystyried eich barn fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i hygyrchedd. /td>
|