| |




|
|
 |
|
|
Crynodeb o Gynllun Iaith Gymraeg 1997
(paratowyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993)
Y cynllun hwn
Cyfeiriadau a marciau post yng Nghymru
Gohebiaeth
Galwadau ffôn
Cyfarfodydd
Ffurflenni a thaflenni
Arwyddion, hunaniaeth a hysbysiadau
Datganiadau i'r wasg, cyhoeddiadau ac arddangosfeydd
Hysbysebu cynhyrchion ac arolygon
Recriwtio a hyfforddi
Trefniadau gyda thrydydd partion
Gweithredu a monitro
Cysylltu
Y cynllun hwn
Mae’r cynllun hwn yn nodi’r mesurau a gymerwn i weithredu statws cyfartal y Gymraeg a’r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau i’n cwsmeriaid yng Nghymru. Rhoddwyd ei gefnogaeth lawn i’r Cynllun gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac mae’n fandadol o fewn pob rhan o’r Grŵp.
Mae croeso i gwsmeriaid yng Nghymru sy’n dymuno trafod eu busnes gyda ni yn Gymraeg, boed mewn gohebiaeth, dros y ffôn neu’n bersonol, wneud hynny ac yr ydym yn ymrwymo i ddarparu safon o wasanaeth sydd yr un mor uchel yn Gymraeg ag yn Saesneg. |
|
|
| |
|
 |
Cyfeiriadau a marciau post yng Nghymru
Cyhyd ag y defnyddir y cyfeiriad a’r cod post cywir, byddwn yn dosbarthu yn unol â safonau arferol ein gwasanaeth, lythyrau a pharseli ac arnynt naill ai’r enw Cymraeg neu Saesneg ar le neu ffordd yng Nghymru os mabwysiadwyd yr enw’n swyddogol ac os dangosir ef gan yr awdurdod lleol.
I’w gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid ddod o hyd i’r ffurfiau Cymraeg ar gyfeiriadau yng Nghymru, a’u defnyddio, byddwn yn sicrhau bod y cynhyrchion a ddarparwn i’w helpu i gyfeirio eitemau yn caniatáu nodi’r cyfeiriadau Cymraeg swyddogol yn gyfleus.
Fel rheol, mae’r marciau post swyddogol yng Nghymru yn dangos enw’r swyddfa’n ddwyieithog, ac eithrio mewn achosion lle mae hynny’n dechnegol anymarferol oherwydd y cyfyngiadau ar ofod.
Mae gan sloganau neu negeseuon ar farciau post eiriad dwyieithog yng Nghymru, ond oherwydd y cyfyngiadau technegol ar ofod gallant fod yn fersiynau talfyredig o’r rhai a ddefnyddir yn Saesneg yn unig ledled gweddill y Deyrnas Gyfunol.
Mae croeso i ddeiliaid trwyddedau gwasanaethau ymateb yng Nghymru ddangos gwybodaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg yn unig ar amlenni Ateb Busnes neu amlenni Rhadbost.
Gall peiriannau ffrancio’r post yng Nghymru ddangos enw tref yn Gymraeg neu’n ddwyieithog lle bynnag y bydd hi’n ymarferol gwneud hynny.
Mae marciau post "Diwrnod Cyhoeddi Cyntaf" a ddefnyddir i ddileu amlenni diwrnod cyntaf a phost ffilatelig yng Nghymru yn ddwyieithog. |
|
|
| |
|
 |
Gohebiaeth
Mae ein swyddfeydd yng Nghymru’n defnyddio papur ysgrifennu swyddogol ac arno benawdau dwyieithog.
Byddwn yn defnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw ohebiaeth sy’n deillio o lythyr, cyfarfod neu sgwrs ar y ffôn â chwsmer sy’n defnyddio’r Gymraeg neu os yw’r cwsmer wedi nodi eisoes ei fod neu ei bod yn dymuno gohebu yn y Gymraeg. Os na wyddom pa iaith yw dewis iaith y cwsmer rydym yn cychwyn yr ohebiaeth yn ddwyieithog. Mae unrhyw gylchlythyr neu lythyr safonol a gyfeiriwn at deuluoedd neu gwsmeriaid busnes yng Nghymru am wasanaethau post cyhoeddus yn ddwyieithog, ni waeth o ble y postir hwy.
Mae’r un safonau a bennwyd ar gyfer ymateb i lythyr yn Saesneg yn gymwys i lythyrau yn Gymraeg.
Rydym yn darparu canllawiau a hyfforddiant priodol i’n staff, wrth ddelio â gohebiaeth yn Gymraeg. |
|
|
| |
|
 |
|
Galwadau ffôn
Rydym yn darparu gwasanaethau llinell gymorth yn Gymraeg.
Mae ein hysbysebion mewn llyfrau ffôn yn gwbl ddwyieithog yng Nghymru.
Cyfarfodydd
Lle bynnag y bydd modd, rydym yn ceisio cynyddu nifer y bobl yn ein swyddfeydd sy’n gymwys i drafod busnes drwy’r Gymraeg, ac rydym yn monitro ein cynnydd blynyddol yn hyn o beth.
Rydym yn defnyddio arwyddion i nodi’r safleoedd cownter lle mae’r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg.
Rydym yn cynnig trefnu cael siaradwr Cymraeg medrus yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod a drefnir yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.
Gall siaradwr Cymraeg fod ar gael hefyd ar gyfer ymweliadau tywys â’n hadeiladau yng Nghymru. |
|
|
| |
|
 |
Ffurflenni a thaflenni
Rydym yn cynhyrchu, i’w defnyddio yng Nghymru, fersiynau dwyieithog o daflenni a ffurflenni a gynhyrchwn i’r cyhoedd eu llenwi neu, lle mae hyn yn anymarferol, rydym yn darparu fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Sefydlwyd gweithdrefnau i ofalu bod gan ein swyddfeydd yng Nghymru stoc ddigonol a bod yr eitemau’n cael eu harddangos yn ddigonol.
Arwyddion, hunaniaeth a hysbysiadau
Mae pob blwch postio a ddefnyddir gan y cyhoedd yng Nghymru yn arddangos gwybodaeth yn ddwyieithog, fel y gwna pob peiriant gwerthu stampiau rydym yn berchen arno ac yn ei weithredu.
Mae ein cerbydau dosbarthu a’r bysiau post sydd gennym sy’n gweithio’n barhaol o swyddfeydd yng Nghymru neu a ddefnyddir yng Nghymru yn bennaf, yn arddangos arwyddion hunaniaeth dwyieithog.
Rydym yn arddangos arwyddion gwybodaeth gyhoeddus dwyieithog ac arwyddion hunaniaeth dwyieithog ar du allan ein hadeiladau yng Nghymru ac yn y mannau mewnol hynny y derbynnir y cyhoedd iddynt fel arfer.
Caiff eitemau ffilatelig sydd â thema benodol Gymreig eu cynhyrchu’n ddwyieithog. |
|
|
| |
|
 |
|
Datganiadau i’r wasg, cyhoeddiadau ac arddangosfeydd
Caiff datganiadau i’r wasg sy’n sôn am newidiadau i’n gwasanaethau yng Nghymru, neu sy’n arbennig o berthnasol i Gymru neu’r Gymraeg, eu cynhyrchu’n ddwyieithog.
Fel rheol, rydym yn cynhyrchu’n ddwyieithog y cyhoeddiadau gwybodaeth gyhoeddus a ddosberthir i gwsmeriaid yng Nghymru.
Os cynhyrchwn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o gyhoeddiad, rydym yn anelu at gyhoeddi’r ddau fersiwn yr un pryd yng Nghymru a bydd yr un mor hawdd cael gafael arnynt a bydd eu pris yr un fath.
Bydd unrhyw arddangosfa a gynhaliwn yng Nghymru yn cynnwys arddangosiadau dwyieithog.
Hysbysebu cynhyrchion ac arolygon
Mae unrhyw hyrwyddiad hysbysebu a gynhyrchwn sydd wedi ei anelu’n unig at gwsmeriaid yng Nghymru yn ddwyieithog, neu fe gynhyrchir fersiwn Cymraeg ohono.
Caiff unrhyw holiadur sy’n rhan o arolwg cwsmeriaid yn ymwneud â’n gwasanaethau yng Nghymru ei gynhyrchu’n ddwyieithog, a bydd cyfle i ymateb yn Gymraeg. |
|
|
| |
|
 |
|
Recriwtio a hyfforddi
Yng Nghymru, rydym yn hysbysebu swyddi gwag, gan gynnwys rhai ar gyfer asiantaethau, yn Gymraeg a Saesneg. Ond os credwn fod y gallu i siarad neu ysgrifennu Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd, gallwn hysbysebu yn y Gymraeg yn unig.
Yn achos swyddi lle y credwn ei bod yn hanfodol neu’n fanteisiol defnyddio’r Gymraeg, rydym yn hybu ac yn cefnogi hyfforddiant ieithyddol priodol i sicrhau y gall deiliad y swydd gyrraedd a chynnal y safon sy’n ofynnol gennym.
Trefniadau gyda thrydydd partïon
Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflenwyr neu’r contractwyr a’u gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru ar ein rhan gydymffurfio â’n safonau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg fel y’u nodir yn y cynllun hwn. Yn yr un modd, os ydym yn gweithredu fel asiant i gorff arall sydd â’i gynllun iaith Gymraeg ei hun ac y darparwn wasanaethau i’r cyhoedd ar ei ran, rydym yn anrhydeddu ein rhwymedigaethau cytundebol mewn perthynas â gweithredu’r cynllun hwnnw. |
|
|
| |
|
 |
|
Gweithredu a monitro
Byddwn yn cynnal arolygon barn o bryd i’w gilydd i roi prawf ar farn siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio ein gwasanaethau am yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarparwn ac am eu hansawdd.
Byddwn yn cynnal arolwg parhaus o effeithiolrwydd y cynllun hwn a byddwn yn ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol er mwyn hybu ymhellach gydraddoldeb y Gymraeg a’r Saesneg, a hynny gan ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Caiff crynodeb o’n perfformiad yn ôl y cynllun hwn ei anfon bob blwyddyn at Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Cysylltu
Gellir cael copïau o’r cynllun llawn am ddim oddi wrth mike.norman@royalmail.com.
Os byddwch eisiau gofyn cwestiwn neu gwyno am ein polisi iaith Gymraeg neu am gynnwys ein cynllun, cysylltwch os gwelwch yn dda â mike.norman@royalmail.com. |
|
|
| |
| |
|
 |
|