Grŵp y Post Brenhinol www.swyddfarpost.co.ukwww.postbrenhinol.com CartrefCysylltwchHelp

Ynglŷn â niNewyddionCymunedAmgylcheddGweithiwch gyda ni
 
 



 
Gwobrau Pobl Dosbarth Cyntaf - enillwyr i'w cyhoeddi yn y man

Byddwn yn cyhoeddi 27 enillydd rhanbarthol Gwobrau Pobl Dosbarth 1af y Post Brenhinol yn y man. Bydd yr enillwyr rhanbarthol hyn yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol genedlaethol, er mwyn canfod postmon neu bostferch y flwyddyn.

Oherwydd ein bod wedi derbyn cymaint o enwebiadau yn ymwneud ag achub bywyd a gweithredoedd o ddewrder, ac yn disgrifio ymdrechion codi arian hynod, bydd y Post Brenhinol yn rhoi tair gwobr genedlaethol: gwobr gyffredinol 'postmon neu bostferch y flwyddyn', a gwobrau arbennig ar gyfer 'gweithred o ddewrder' a 'gwobr codi arian' y flwyddyn.

Cyhoeddir enillwyr cyffredinol gwobrau Pobl Dosbarth 1af mewn seremoni yn Llundain ar 21 Mawrth, a fynychir gan yr holl enillwyr rhanbarthol, ac yn cael ei llywyddu gan Brif Weithredwr y Post Brenhinol Adam Crozier.

Rydym wedi derbyn nifer fawr o lythyrau a negeseuon e-bost yn adrodd straeon hynod am y miloedd o bobl Dosbarth 1af sy'n gweithio i'r Post Brenhinol, y mae eu rôl yn y gymuned yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Diolch i chi am gysylltu gyda ni.

Bydd yr holl gwsmeriaid a enwebodd bobl y Post Brenhinol i dderbyn gwobr yn cael dodi eu henwau mewn cystadleuaeth i ennill gwyliau gwerth £2000. Caiff yr enw ei dynnu yn y seremoni Gwobrau Pobl Dosbarth 1af ar 21 Mawrth, ac fe gysylltir gyda'r buddugol trwy'r post.

Dewch yn ôl i'r wefan yn fuan i weld y rhestr o enillwyr yn eich rhanbarth chi.

   
 
 
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg