|
Fel y Darparwr Gwasanaeth i Bawb rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dosbarthu post i bob cyfeiriad yn y DG bob diwrnod gwaith, gydag ychydig o eithriadau, a chasgliadau dyddiol o bob pwynt mynediad. Rydym hefyd yn ystyried y rhai sy'n ei chael hi'n anos i gyrchu ein gwasanaethau. Mae'r dogfennau isod yn rhoi manylion am ein hymrwymiad i bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy anghysbell ac sydd â mynediad cyfyngedig i wasanaethau post.
Mynediad - Rhwymedigaethau cymdeithasol (yn Saesneg) (PDF - 42Kb)
Gwasanaethau post i bobl mewn ardaloedd anghysbell (yn Saesneg) (PDF - 17Kb)
Mae pleidleisio drwy'r post yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd i symud. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'r Comisiwn Etholiadol ar nifer o ragbrofion pleidleisio drwy'r post, ac rydym newydd gynhyrchu arweiniad arferion gorau ar gyfer pleidleisio drwy'r post. Er y cafodd ei anelu'n bennaf at awdurdodau lleol, mae'n ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn.
Ein harweiniad i bleidleisio drwy'r post (yn Saesneg) (PDF - 154Kb)
AAr hyn o bryd mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 yn cael ei defnyddio gan tua 8.6 miliwn o bobl yn y DG, sef tua 15% o'r boblogaeth. Rydym drwy'r amser yn ceisio gwella ein cynhyrchion, gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer ein cwsmeriaid a'n gweithwyr.
Byddwn yn gweithio yn unol â thelerau pob deddfwriaeth sy'n bodoli ac sydd ar y gweill ac sy'n berthynol i'n polisïau ein hunain, gan gynnwys ein Polisi Cwsmeriaid Anabl. Ein nod yw gofalu bod ein holl gwsmeriaid a gweithwyr yn cael eu trin yn deg a chyfartal wrth i ni ddarparu ein gwasanaethau. |