|
Mae ein gwaith elusennol yn gysylltiedig â'n digwyddiadau craidd. Ceisiwn wella bywydau unigolion trwy gyfrwng ein cyfranogiad cymunedol
Cefnogaeth i elusennau
Ein cyfrwng ar gyfer cefnogi elusennau yw'r Gronfa Carreg Lam. Lansiwyd y Gronfa ym mis Ionawr 2001 ac yn ystod y flwyddyn gyntaf bu'n bosibl i ni gefnogi 58 o brosiectau ledled y DG, pob un yn helpu oedolion i wella eu sgiliau ysgrifennu. Roedd y prosiectau'n ymwneud ag amrediad eang o anghenion, o'r pethau sylfaenol i ysgrifennu creadigol am bleser. Gwnaed llawer o'r prosiectau gan grwpiau bach lleol yn ymateb i angen yn eu cymuned eu hunain, Gyda'n cymorth ni, roedden nhw'n gallu gweithredu eu cynlluniau a gwneud gwir wahaniaeth.
Gydag ystadegau'r llywodraeth yn datgelu fod dros 7 miliwn o oedolion yn y DG yn dioddef o broblemau llythrennedd sylfaenol, rydym yn dal i gefnogi llythrennedd trwy gyfrwng Cronfa Carreg Lam am y drydedd flwyddyn. Yn 2003, bydd 45 o brosiectau gwahanol wedi cael cyfran o'r £250,000 yn y Gronfa.
Mae'r gronfa ar gyfer eleni wedi cau erbyn hyn. Os hoffech gofrestru ar gyfer Cronfa Carreg Lam 2004, ysgrifennwch at y cyfeiriad isod neu ebostiwch steppingstonefund@royalmail.com.
Cronfa Carreg Lam
148 Old Street
LLUNDAIN
EC1V 9HQ
Ffôn: 020 7250 2243
Rydym yn croesawu galwadau TextDirect BT. Mae'r ffurflen gais ar gael mewn ffurfiau gwahanol ar eich cais, e.e. mewn print bras, mewn Braille ac yn Saesneg.
Yn ystod 2003 rhoddodd y Post Brenhinol dros £200,000 hefyd i brosiectau elusennol yn rownd gyntaf rhoddion wedi'u hariannu o werthu'r stampiau arbennig a gyhoeddwyd adeg marwolaeth EM y Frenhines Elizabeth y Fam Frenhines yn 2002. Mae pob un o'r 20 o brosiectau a ddewiswyd yn cael ei reoli gan elusen yr oedd y Fam Frenhines yn gysylltiedig ag ef fel noddwr. |