| Prosiect: |
|
Grŵp Ysgrifennu Bannside Scribblers
Portadown Gogledd Iwerddon |
| Categori: |
|
Dan Anfantais |
Mae Portadown yn ardal boblog iawn â diweithdra uchel a phroblemau sectyddol. Mae llawer o aelodau'r grŵp heb gael fawr o addysg. Trwy weithio gyda thiwtoriaid ysgrifennu creadigol, maent wedi gwella eu sgiliau llythrennedd a'u hyder. Bydd aelodau'r grŵp yn casglu detholiaid o'u hysgrifennu creadigol dros y flwyddyn ddiwethaf - gan roi hwb pellach i'w hunan-barch.
| |
| Prosiect: |
|
Rhaglen Datblygu Personol
(Ymddiriedolaeth Dai Central & Cecil) |
| Categori: |
|
Sgiliau sylfaenol |
Mae'r Rhaglen yn darparu cyngor a chymorth ymarferol i fenywod digartref i'w helpu i ddod o hyd i atebion hirdymor i'w problemau a datblygu sgiliau er mwyn byw yn annibynnol. Bydd tiwtor cymwysedig yn darparu dosbarthiadau llythrennedd ddwywaith yr wythnos mewn dwy hostel. Bydd gwersi a gafodd eu llunio'n arbennig yn ymwneud â sgiliau ysgrifennu sylfaenol, ysgrifennu brasluniau bywyd ac ysgrifennu storïau byrion.
| |
| Prosiect: |
|
Ysbryd yr Ynysoedd |
| Categori: |
|
Ysgrifennu Creadigol |
Nod y prosiect hwn yw datblygu sgiliau ysgrifennu creadigol yn yr Hebrides Allanol a chodi pontydd rhwng cymunedau mewn ardaloedd anghysbell. Bydd gweithdai yn ysgogi ysgrifennu sy'n dathlu'r amgylchedd diwylliannol, cymdeithasol a naturiol unigryw a rhoi llais i'r unigolyn yn y gymuned ehangach.
| |
| Prosiect: |
|
Write-on Dads |
| Categori: |
|
Dan Anfantais |
Bydd carcharorion o Garchar EM Caerwysg sy'n cymryd rhan yn y prosiect hwn yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u plant trwy recordiau storïau ar dâp neu gryno-ddisg. Cynhelir tri chwrs 10-wythnos dros gyfnod o flwyddyn, gan ganolbwyntio ar sgiliau ysgrifennu a deall llyfrau plant priodol ar gyfer oedrannau gwahanol. Bydd rhieni'n darllen storïau yn uchel er mwyn creu llyfrau sain i'w plant.
| |
| Prosiect: |
|
Anfon Gair |
| Categori: |
|
Anableddau |
Bydd Anfon Gair yn targedu pobl agored i niwed dros 55 oed er mwyn ailgynnau a rhannu'r sgiliau darllen ac ysgrifennu sydd ganddynt ar hyn o bryd. Cânt eu hannog i ysgrifennu at eraill - naill ai oedolion sy'n gaeth i'w cartrefi neu blant ysgol. Bydd Cyngor yr Henoed Stockport yn helpu i gael hyd i wirfoddolwyr, a bydd y rhain yn cael cymorth llythrennedd un-i-un a chynorthwyon i'w helpu i weld neu ddal ysgrifbin pan fo angen hynny.
Mae'r Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol wedi rhoi ei chefnogaeth i'r Gronfa a gallwch weld manylion pellach am bob un o'r prosiectau ar gyfer 2001 a 2003 ar ei gwefan www.literacytrust.org.uk. |