Grŵp y Post Brenhinol www.swyddfarpost.co.ukwww.postbrenhinol.com CartrefCysylltwchHelp

Ynglŷn â niNewyddionCymunedAmgylcheddGweithiwch gyda ni
 
 








Mae ein cymorth yn seiliedig ar Gronfa Carreg Lam a sefydlwyd yn 2001. Er enghraifft, rydym yn hyrwyddo sgiliau ysgrifennu ar gyfer pobl dros 16 oed ac yn ystod tair blynedd cyntaf y Gronfa rydym wedi cynorthwyo dros 145 o brosiectau cymunedol wrth geisio cyrraedd rhai o'r saith miliwn o oedolion yn y DG yr amcangyfrifir eu bod yn ei chael hi'n anodd i ysgrifennu neu sy'n dymuno gwella'u sgiliau.

Roedd beirniaid Cronfa 2003 yn fodlon iawn â'r amrywiaeth o brosiectau arloesol a diddorol a drefnwyd gan grwpiau lleol er mwyn gwella sgiliau llythrennedd ymhlith oedolion. O weithdai ysgrifennu sylfaenol i gyrsiau ysgrifennu creadigol i ddarparu adnoddau dysgu a chymorth gan ysgrifenwyr proffesiynol, bydd y 45 o brosiectau sy'n elwa eleni â 2,000 o bobl a fydd hwythau'n elwa yn uniongyrchol a miloedd eraill a fydd yn elwa yn anuniongyrchol.

Gallwch weld rhagor o fanylion am ein Cronfa Carreg Lam a sut i wneud cais yn Elusennau.

Gallwch weld manylion am y prosiectau buddugol blaenorol yn astudiaethau achos.

   
 
 
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg