| Mae gennym draddodiad hir o gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym bob amser yn awyddus i ddeall anghenion athrawon a disgyblion er mwyn gofalu fod popeth a gyflwynir gennym yn addas ar gyfer y cwricwlwm.
Yr All Write Programme yw ein prif adnodd ystafell ddosbarth ac mae'n ystyried dulliau gwahanol o ysgrifennu. Cafodd y rhaglen ei thargedu yn benodol i weithio gyda'r Awr Llythrennedd ac mae ganddi luniau lliw sy'n dangos ysgrifennu trwy gyfrwng golygfeydd straeon tylwyth teg. Er enghraifft, caiff llythyrau cwyno eu hesbonio trwy gyfrwng stori Elen Benfelen a'r Tair Arth. Lluniwyd yr adnodd hyblyg hwn i weithio yn yr ystafell ddosbarth gyda, neu heb gymorth gwirfoddolwyr y Post Brenhinol.
Adnodd poblogaidd arall yw Lenny the Letter sydd wedi bod yn adrodd hanes ei daith i filoedd o blant dros y degawd diwethaf. Mae'r cymeriad Lenny yn ymddangos mewn fideo chwe-munud ac mae rhannau allweddol o'r siwrnai mewn ffrîs y gall y gwirfoddolwr neu'r athro ei ddefnyddio gyda'r dosbarth.
Ceir nifer o weithgareddau cysylltiedig i'r athro neu'r gwirfoddolwr eu defnyddio gyda'r disgyblion.
I gael rhagor o wybodaeth am adnoddau ysgolion cynradd, cysylltwch â'n llinell gymorth ar 01795 426465 neu e-bostiwch socialpolicyteam@royalmail.com. |