|
Mae pawb ohonom am gael ein deall. Mae pob un ohonom yn unigryw ac rydym am i bobl wybod sut deimlad yw bod fel ni. Mae anfon negesau testun yn ail natur i'r genhedlaeth bresennol o blant ffonau symudol, ond credwn fod yna well ffordd o roi llais i bobl ifanc.
Mae'n ffordd y gallant ddianc rhag bwrlwm bywyd a hel meddyliau. Os ydych yn dymuno trosglwyddo gwybodaeth, mynegi barn, dweud diolch neu adrodd stori ddoniol, mae llythyr yn cynnig gwell cyfle o lawer i gysylltu mewn ffordd greadigol. A gallant wneud hynny yn eu harddull eu hunain ac yn ôl cyflymder eu hunain.
Dros y 28 mlynedd diwethaf mae'r Post Brenhinol wedi cynnal cystadleuaeth ysgrifennu llythyrau ar gyfer ysgolion ledled y DG. Mae Cystadleuaeth Llythyrwyr Ifainc y Post Brenhinol wedi denu dros 4 miliwn o gynigion ers iddi ddechrau, sy'n golygu taw dyma'r gystadleuaeth ysgrifennu llythyrau fwyaf o'i bath yn y DG.
|