Grŵp y Post Brenhinol www.swyddfarpost.co.ukwww.postbrenhinol.com CartrefCysylltwchHelp

Ynglŷn â niNewyddionCymunedAmgylcheddGweithiwch gyda ni
 
 








Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn sail i wareiddiad modern. Mae'n fodd i addysgu ein plant, llywodraethu gwledydd a thrafod busnes a chysylltiadau rhyngwladol. Mae'r gair ysgrifenedig wedi galluogi cysylltu rhwng pobl a rhwng yr oesau.

Bydd llawer ohonom yn cael ein profiadau mwyaf gwerthfawr trwy ein gallu i ddarllen ac ysgrifennu. Eto i gyd mae ystadegau gan y Llywodraeth yn dangos fod gan dros 7 miliwn o oedolion yn y DG â broblemau llythrennedd sylfaenol.

Ers blynyddoedd rydym wedi hyrwyddo llythrennedd i blant trwy amrediad o adnoddau ystafell ddosbarth. Rydym hefyd yn gweithio trwy ein Cronfa Carreg Lam i helpu oedolion i oresgyn anawsterau neu anableddau dysgu sy'n amharu ar eu dysgu. Gall oedolion mwy hyderus ymuno â phrosiectau sy'n defnyddio'r gair ysgrifenedig er mwyn profi diwylliant, hunaniaeth neu hanes lleol.
 

   
 
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg