Grŵp y Post Brenhinol www.swyddfarpost.co.ukwww.postbrenhinol.com CartrefCysylltwchHelp

Ynglŷn â niNewyddionCymunedAmgylcheddGweithiwch gyda ni





 
  Credwn y dylai pawb allu mwynhau manteision y gair ysgrifenedig. Mae llythrennedd yn cael ei gymryd yn ganiataol yn ein cymdeithas fodern, ond mae'r sefyllfa mewn gwirionedd yn wahanol i filiynau o bobl yn y DG. Gall eu brwydr ddyddiol â'r gair ysgrifenedig droi'r tasgau symlaf yn heriau anodd.

Mae'r Post Brenhinol wedi ymrwymo i helpu pawb i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig er mwyn creu cymdeithas gyfoethocach sy'n galluogi unigolion i gyfathrebu, dysgu a datblygu eu potensial llawn.

Ers sawl blwyddyn rydym wedi gweithio gydag ysgolion. Mae ein gweithgareddau yn amrywio o wirfoddoli gan ein gweithwyr - yn yr ystafell ddosbarth ac fel llywodraethwyr ysgol - i weithio gydag athrawon er mwyn cynhyrchu adnoddau ystafell ddosbarth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.

Rydym hefyd yn weithgar yn y gymuned ehangach, gan gefnogi grwpiau sy'n gweithio i ddatblygu sgiliau ysgrifennu oedolion. Mae ein Cronfa Carreg Lam yn sicrhau bod prosiectau gan gymunedau bach, sy'n aml yn colli cyfle, yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn parhau â'u gwaith, Yn ystod 2003 rhoesom grantiau i 45 o brosiectau.
 
 
 
  © Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Cynllun cyhoeddi  Yn Saesneg