|
Llai O Lythyrau Ond Elw Cyffredinol Y Post Brenhinol Yn Cynyddu 20% Oherwydd Hwb Gan Y Busnes Parseli Ewropeaidd
Cyhoeddodd Grŵp y Post Brenhinol heddiw gynnydd o 20.5% mewn elw gweithredol i £159 miliwn ar gyfer hanner cyntaf 2005-06, ond rhybuddiodd fod yr elw yn ei fusnesau llythyrau wedi gostwng.
Dywedodd Allan Leighton, Cadeirydd Grŵp y Post Brenhinol, fod y gostyngiad yn yr elw ar gyfer llythyrau'n golygu nad oedd adran fwyaf y Cwmni'n cyfrannu bellach at dwf elw cyffredinol y Grŵp. Ond canmolodd y postmyn a phostmonesau am yr ansawdd gwasanaeth gorau erioed i gwsmeriaid.
Roedd elw gweithredol y Grŵp o £159 miliwn yn y chwe mis tan ddiwedd Medi 2005 yn golygu gwelliant o £27 miliwn mewn cymhariaeth â'r cyfnod cyfatebol y flwyddyn flaenorol.
Ond y rheswm am y cynnydd oedd gwell perfformiad ariannol gan General Logistics Systems (busnes parseli'r Post Brenhinol), Swyddfa'r Post Cyfyngedig a Parcelforce Worldwide. Roedd yr elw gweithredol yn y busnes llythyrau wedi gostwng oherwydd y gostyngiad cyntaf mewn chwarter canrif yn nifer yr eitemau post wedi ei gyfeirio.
Fodd bynnag, gwnaeth y busnes llythyrau, sy'n gyfrifol am oddeutu 76% o gyllid Grŵp y Post Brenhinol, elw gweithredol o £168 miliwn, sef 3% yn llai na'r £173 miliwn yn ystod hanner cyntaf y llynedd.
Digwyddodd y gostyngiad er gwaethaf cynnydd cyffredinol o 1.8% - llai na chwyddiant - ym mhrisiau post ar ddechrau Ebrill 2005.
Dywedodd Mr Leighton: "Mae'r canlyniadau diweddaraf hyn yn tanlinellu'r heriau enfawr a digynsail sy'n wynebu'r Post Brenhinol.
"Rydym wedi mynd yn bell ers i ni lansio'r Cynllun Adfywio yn 2002 pan oedd y Cwmni'n colli dros £1m bob diwrnod gwaith.
"Ond ymhen ychydig dros fis, bydd y farchnad bost yn agor i gystadleuaeth lawn ac mae'r Post Brenhinol yn wynebu'r posibilrwydd y bydd y Rheoleiddiwr yn rheoli prisiau yn y fath modd y bydd y trawsnewid rhyfeddol a gyflawnwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf gan ein pobl yn cael ei ddadwneud."
Dywedodd fod y Post Brenhinol yn dymuno gweld ffordd y gallai pobl y cwmni ddod yn fudd-ddeiliaid.
"Rydym yn fusnes pobl ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod gan ein pobl y cymhellion cywir i ddal i gyflenwi gwasanaeth cyson i gwsmeriaid. Hoffem weld ein pobl yn dal cyfran o 20% yn y Cwmni" meddai Mr Leighton.
Pwysleisiodd na fu newid ym mhrif flaenoriaeth y Post Brenhinol, sef cynnig gwell gwasanaeth hyd yn oed i gwsmeriaid. Erbyn hyn roedd perfformiad y post Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth wedi bod cystal neu ychydig yn well na'r targed am dros flwyddyn - gydag oddeutu 94% o lythyrau Dosbarth Cyntaf yn cyrraedd y diwrnod ar ôl eu postio, sef yn well na'r targed o 93%. Roedd Mailsort ar gyfer gwasanaethau swnp-bost, Presstream ar gyfer post cylchgronau a chatalogau, a gwasanaethau PPI (Argraff Post-daledig) ar gyfer post mewn amlenni rhagdaledig hefyd yn gwneud yn well na'r targed, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Ond rhybuddiodd fod cyfanswm y post wedi'i gyfeirio, ar wahân i gwymp bach dair blynedd yn ôl, wedi gostwng am y tro cyntaf mewn 25 mlynedd.
Roedd y swmp-bost proffidiol, sy'n cael ei ddefnyddio gan brif gwsmeriaid y Post Brenhinol, wedi gostwng cymaint â 7.1%. Roedd post Dosbarth Cyntaf wedi gostwng 4.2% ac Ail Ddosbarth 3.8%.
Yn y cyfamser, cafwyd cynnydd enfawr yn nifer yr eitemau post "Access" - pan fo llythyrau'n cael eu casglu a'u trafod gan gwmnïau cystadleuol neu gwsmeriaid cyn cael eu cyflwyno i'r Post Brenhinol am bris is nag unrhyw bost busnes arall i'w ddosbarthu gan bostmyn a phostmonesau'r Cwmni. Roedd nifer yr eitemau Access wedi cyrraedd oddeutu 90 miliwn o lythyrau'r mis ac erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, fe fyddai'r gwasanaeth hwn wedi trafod dros un biliwn o lythyrau, mewn cymhariaeth â dim ond 13 miliwn y llynedd.
Roedd y Post Brenhinol wedi gweld peth twf hefyd yn y post heb ei gyfeirio a heb ei reoleiddio - y taflenni a'r llyfrynnau sy'n cael eu dosbarthu i bob cyfeiriad ar lwybr postmon a phostmones. Eto i gyd, gwnaed llai o elw am fod y cwmni'n derbyn incwm is o lawer o bost heb ei gyfeirio nag yw o brisiau post eitemau wedi eu cyfeirio.
Dywedodd Adam Crozier, Prif Weithredwr y Post Brenhinol, fod y gostyngiad yn elw'r busnes llythyrau'n adlewyrchu'r modd roedd economi'r DG yn arafu ac effaith y cyllid is o'r gwasanaethau Access.
"Roedd y Rheoleiddiwr wedi rhagweld y byddai'n cymryd pedair blynedd i eitemau Access gyrraedd y math o niferoedd rydym yn eu gweld heddiw, ac roedd hefyd wedi proffwydo twf yn y farchnad bost yn gyffredinol. Rhaid i'r Post Brenhinol fyw yn y byd real - ac nid ym myd damcaniaethol economegwyr rheoleiddiol - a'r gwir yw ein bod yn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr eitemau post rheoledig ," meddai Mr Crozier.
"Mae'r Post Brenhinol wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Mae'r cynnydd enfawr mewn gwasanaethau Access - nad yw cwmnïau post cenedlaethol eraill yr UE yn eu caniatáu o dan y telerau sydd ar gael dan reoleiddiad yn y DG - yn dangos y bydd y frwydr am gystadleuaeth yn bodoli yn y farchnad ar gyfer post busnes, sy'n cyfrif am 93% o'r holl lythyrau sy'n cael eu postio.
"Rhaid i'r Post Brenhinol gael strwythur prisio teg a chytbwys i gystadlu am bost busnes. Yn hytrach, mae'r Rheoleiddiwr yn argymell gwasgod gaeth ar gyfer prisio.
"Rhaid i'r Rheoleiddiwr roi ystyriaeth lawn i'r rhwystr enfawr, sef y diffyg cyfrifo o £4 biliwn yng nghronfa bensiwn y Post Brenhinol.
"Hefyd, mae angen i ni fuddsoddi £2 biliwn i newid hen gyfarpar a cherbydau a buddsoddi mewn technoleg newydd er mwyn i'r Post Brenhinol allu bod mor effeithlon â'i gystadleuwyr.
"Credwn na fyddai'n realistig i'r Rheoleiddiwr bennu targedau effeithlonrwydd ar gyfer ein gweithrediadau post sy'n uwch o lawer na'r hyn a gyflawnwyd gennym yn ystod tair blynedd ein Cynllun Adnewyddu pan adawodd 33,000 o bobl y busnes. Fel canlyniad, mae gennym y bygythiad mwyaf a wynebwyd gennym hyd yma i barhad y gwasanaeth un-pris-unrhyw-le i bawb i'r 27 miliwn o gyfeiriadau yn y DG," meddai Mr Crozier.
"Os nad yw'r Post Brenhinol yn gallu cystadlu'n llwyddiannus, ni fydd unrhyw gwmni arall yn gallu cynnig y gwasanaeth i bawb."
Yn unol â thelerau ein Trwydded rydym wedi cytuno ar dargedau isaf perfformiad rhestredig ar gyfer ein gwasanaethau rhestredig. Rydym yn cyhoeddi adroddiadau chwarterol am ein perfformiad yn ôl y targedau hyn. Gallwch weld y rhain trwy glicio ar y cyswllt isod.
Targedau isaf gwasanaeth rhestredig (PDF - 14Kb)
Mae'r Post Brenhinol yn adrodd y manylion llawn am ansawdd gwasanaeth bob chwarter. Gallwch weld yr adroddiad manwl am y chwarter hwn trwy glicio ar y cyswllt isod:
Adroddiad ansawdd gwasanaeth chwarterol Ebrill - Medi 2005 (yn Saesneg) (PDF - 1.76Mb)
Cliciwch yma i weld manylion yr adroddiadau Ansawdd Gwasanaeth blaenorol
Trwy glicio ar y cyswllt isod, gallwch weld yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gyflawni ein safonau rhestredig a mynd i'r afael â phrif achosion y cwynion gan gwsmeriaid.
Datganiad am y camau i'w cymryd i ddiwallu targedau 2006 ar gyfer gwasanaethau rhestredig (yn Saesneg) (PDF - 357Kb)
Niferoedd y cwynion blynyddol gan gwsmeriaid 2004 - 05 Atodiad A (yn Saesneg) (PDF - 166Kb)
Niferoedd y cwynion blynyddol gan gwsmeriaid 2004 - 05 Atodiad B (yn Saesneg) (PDF - 2.8Mb)
|