| |





 |
|
 |
|
Post Brenhinol
Swyddfa'r Post™
Parcelforce Worldwide
Postwatch
Postcomm
|
|
|
|
Daethom yn ccc ar 26 Mawrth 2001, yn eiddo'n llwyr i Lywodraeth y DG, ein hunig gyfranddaliwr. Y fframwaith ar gyfer newid oedd Deddf Gwasanaethau Post 2000 a greodd gwmni'n canolbwyntio ar fasnach, gyda pherthynas mwy strategol â'r Llywodraeth. Yn ogystal, sefydlodd y Ddeddf Gwasanaethau Post gyfundrefn reoleiddio newydd gyda rheoleiddiwr annibynnol, Postcomm, a chorff diwygiedig i'r defnyddwyr, Postwatch/Golwg ar Bost.
Ar 4 Tachwedd 2002 cafodd ein henw ei newid o Consignia i Grŵp y Post Brenhinol ccc. Trwy gyfrwng ein rhagflaenwyr, Corfforaeth Swyddfa'r Post, Swyddfa'r Post Cyffredinol a Consignia, mae gennym record o dros 360 mlynedd o ddarparu gwasanaethau post i'r cyhoedd.
Yn y DG rydym yn gweithredu dan ein brandiau dibynadwy, y Post Brenhinol, Swyddfa'r Post™ a Parcelforce Worldwide. |
|
|
| |
|
|
|
Post Brenhinol
Mae'r Post Brenhinol yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol y mae trigolion lleol, busnesau, llywodraeth leol a chenedlaethol, gwasanaethau cyhoeddus a'r gymuned yn gyffredinol yn dibynnu arno. Er gwaethaf dyfodiad e-bost a dulliau electronig eraill i anfon negesau, a'r defnydd parhaol o beiriannau ffacs, caiff tua 82 miliwn o eitemau post eu dosbarthu bob dydd ac mae'r nifer yn dal i dyfu.
Mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth dosbarthu llythyrau i bob un o'r 27 miliwn o gyfeiriadau yn y Deyrnas Gyfunol am bris unffurf, waeth pa mor bell y teithir. Mae'r dyletswydd hefyd yn cynnwys gwneud o leiaf un casgliad bob dydd o bob un o'n blychau postio.
www.royalmail.com |
|
|
| |
|
|
|
Swyddfa'r Post™
Mae naw deg pedwar y cant o bobl yn y DG yn byw o fewn milltir i un o ganghennau Swyddfa'r Post. Mae dau ddeg wyth miliwn o bobl yn mynd i un o ganghennau Swyddfa'r Post * bob wythnos i fanteisio ar fwy na 170 o wahanol gynhyrchion a gwasanaethau, sy'n amrywio o gynhyrchion ariannol, gwasanaethau teithio, gwybodaeth gan y llywodraeth a chynhyrchion manwerthol.
Trwy Swyddfa'r Post Cyf, rydym hefyd yn gweithredu'r rhwydwaith manwerthol mwyaf yn y DG. Mae gennym fwy o ganghennau Swyddfa'r Post nag sydd gan y pedair prif gymdeithas adeiladu a'r chwe phrif fanc gyda'i gilydd yn y DG - 14,400. Mae'r rhwydwaith yn unigryw yn yr ystyr mai dim ond oddeutu 500 cangen Swyddfa'r Post sy'n eiddo i Swyddfa'r Post Cyf. Mae gweddill y rhwydwaith yn eiddo i'r bobl sy'n ei redeg, gan gynnwys masnachfreintiau, is-bostfeistri ac is-bostfeistresi.
www.postoffice.co.uk |
|
|
| |
|
|
|
Parcelforce Worldwide
Mae Parcelforce Worldwide yn canolbwyntio ar y farchnad gynyddol am wasanaeth cyflym ar gyfer gwasanaethau amser-gwarantedig a thrannoeth, a pharseli rhyngwladol. Mae'n cynnig mynediad i'r rhwydwaith dosbarthu mwyaf yn y byd, sy'n cynnwys mwy na 99.6 y cant o boblogaeth y byd ac yn cyrraedd 239 o wahanol wledydd a thiriogaethau.
www.parcelforce.com |
|
|
| |
|
|
|
Postwatch
Sefydlwyd Postwatch (a elwid yn Gyngor Defnyddwyr y Gwasanaethau Post yn wreiddiol) i hybu buddion defnyddwyr gwasanaethau post o fewn fframwaith Deddf Gwasanaethau Post 2000. Mae'n disodli Cyngor Cenedlaethol Defnyddwyr Swyddfa'r Post (POUNC) ac mae ganddo strwythur rhanbarthol ehangach.
Mae Postwatch yn gyfrifol am fonitro safonau gwasanaethau post ac mae'n gweithredu fel ffocws ar gyfer materion defnyddwyr a chwynion. Ymgynghorir ag ef ynghylch penderfyniadau allweddol gan gynnwys amrywiadau yn y gwasanaethau y mae angen trwyddedau post ar eu cyfer, rhoi a newid trwyddedau, a gorfodi amodau trwyddedau. Ar y cyd â'r Comisiwn Gwasanaethau Post (Postcomm), mae Postwatch hefyd yn monitro ac yn cynghori ynghylch y rhwydwaith o ganghennau Swyddfa'r Post.

Ymwelwch â gwefan Postwatch yn www.postwatch.co.uk |
|
|
| |
|
|
|
Postcomm
Crëwyd Comisiwn y Gwasanaethau Post, neu Postcomm fel y'i gelwir fel arfer, gan Ddeddf Gwasanaethau Post 2000. Fe'i sefydlwyd i ddechrau fel corff ymgynghorol, ond daeth yn rheoleiddiwr annibynnol newydd ar gyfer gwasanaethau post ar 6 Tachwedd 2000. Prif gyfrifoldeb Postcomm yw cynnal gwasanaeth post cyffredinol am bris unffurf. Mae wedi gosod safonau gwasanaeth uchel ac mae'n eu monitro'n drwyadl. Hefyd, mae Postcomm wedi trwyddedu cwmnïau eraill i gystadlu yn ein herbyn, er enghraifft yn y farchnad busnes-i-fusnes rhwng canolfannau trefol mawr, sef y rhan fwyaf proffidiol o'r busnes post.

Ymwelwch â gwefan Postcomm yn www.postcomm.gov.uk |
|
|
| |
| |
|
|
|
|