|
Ymunodd Tony McCarthy â'r Post Brenhinol ym mis Ionawr 2003 ac mae'n gyfrifol am ofalu bod pobl y cwmni yn y rheng flaen, a'u rheolwyr, yn cael pob cymorth posibl i gyflawni eu swyddogaethau. Prif her Tony yw codi ysbryd y 195,000 o bobl sy'n gweithio i Grŵp y Post Brenhinol a gwneud y cwmni'n lle rhagorol i weithio ynddo. Cyn ymuno â'r Post Brenhinol, roedd Tony yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol Grŵp BAE Systems ccc lle bu'n gweithio oddi ar 1978. Mae gan Tony ddiploma uwchraddedig mewn astudiaethau gweithlu o Brifysgol Salford a gradd mewn astudiaethau busnes o Bolytechnig Sheffield.
|