Grŵp y Post Brenhinol www.swyddfarpost.co.ukwww.postbrenhinol.com CartrefCysylltwchHelp

Ynglŷn â niNewyddionCymunedAmgylcheddGweithiwch gyda ni
 
  Brandiau
Y Bwrdd
y Bwrdd Rheoli
Y Pwyllgor
Ffeithiau
Perfformiad
Treftadaeth
 
Y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor Taliadau, y Pwyllgor Archwilio a Risg a'r Pwyllgor Enwebu yn bwyllgorau ffurfiol o'r Bwrdd. Nodir cylch gorchwyl y Pwyllgorau hyn isod.

 

arrow   Y Pwyllgor Taliadau
arrow   Y Pwyllgor Enwebu
arrow   Pwyllgor Archwilio a Risg
 

 

   

Y Pwyllgor Taliadau - Cylch Gorchwyl

Swyddogaeth

  • Pennu ar gyfer cymeradwyaeth y Bwrdd y fframwaith ar gyfer tâl uwch swyddogion gweithredol (y 120 pennaf) y Cwmni - gan gynnwys yr ymagwedd ynghylch pennu cyflog sylfaenol, cynlluniau bonws blynyddol, cynlluniau cymhelliant hirdymor, darparu pensiwn, a buddion eraill.
  • Pennu'r pecynnau tâl unigol ar gyfer y Cadeirydd, y cyfarwyddwyr gweithredol ac Ysgrifennydd y Cwmni, yn amodol pan fo angen ar ganiatâd yr Ysgrifennydd Gwladol.
  • Cytuno ar y targedau ar gyfer unrhyw gynlluniau cymhelliant sy'n berthynol i berfformiad ac sy'n berthnasol i gyfarwyddwyr gweithredol ac uwch-swyddogion gweithredol eraill.
  • Cytuno, ar ôl derbyn mewnbwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol, lefel y taliadau bonws blynyddol i'r cyfarwyddwyr gweithredol.
  • Cytuno ar ffurf safonol y contract ar gyfer cyfarwyddwyr gweithredol ac uwch-swyddogion gweithredol eraill.
  • Gofalu bod y telerau cytundebol ar gyfer cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion gweithredol, pan fo'r cytundeb yn dod i ben, ac unrhyw daliadau a wneir, yn cydymffurfio â pholisi'r cwmni.
  • Cytuno ar Adroddiad Taliadau'r Cyfarwyddwyr yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon gan sicrhau bod y gofynion ar gyfer datgeliad priodol o'r manylion am daliadau, gan gynnwys pensiynau, yn cael eu diwallu.
  • Cyflwyno trafodion y pwyllgor i'r Bwrdd.
Aelodaeth

David Fish (Cadeirydd)
Syr Mike Hodgkinson
Richard Handover
Cworwm - dau

Amlder y cyfarfodydd

O leiaf yn chwarterol, ac yn ôl yr angen.

   
    Brig 

Y Pwyllgor Enwebu - Cylch Gorchwyl

Role
Ar gyfer penodiadau i'r Bwrdd Daliadau:

  • Gwerthuso cydbwysedd sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar y Bwrdd er mwyn bwydo'r galluoedd sydd eu hangen ar gyfer penodiad penodol.
  • Gweithio gyda'r paneli craffu a sefydlwyd o dan reolau OCPA i ddewis ymgeiswyr i lenwi swyddi gwag sydd ag angen caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol.
  • Gofalu bod cyfarwyddwyr anweithredol, ar ôl cael eu penodi i'r Bwrdd, yn derbyn llythyr penodi ffurfiol sy'n nodi'n glir yr hyn a ddisgwylir ganddynt o ran amser yn gwasanaethu'r pwyllgor a chyfranogiad y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd.
Ar gyfer penodiadau i swyddi uwch-reolaeth eraill:
  • Enwebu ymgeiswyr addas i fod yn Gyfarwyddwyr ar Fyrddau is-Fyrddau/ Byrddau cyd-fenter/prif Bwyllgorau Gweithredol Unedau Busnes.
  • Enwebu ymgeiswyr addas i fod yn ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn y Cwmni, ac ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Dreftadaeth Bost.
Parthed datblygu uwch reolwyr:
  • Bod â phroses cynllunio olyniaeth mewn grym sy'n ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r Cwmni, a'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen yn y dyfodol.
  • Adolygu'r broses o olyniaeth ar gyfer rheolwyr oddi mewn i'r cwmni ar gyfer y 120 uwch-reolwr pennaf.
Cyffredinol:
  • Cyflwyno trafodion y pwyllgor i'r Bwrdd Daliadau, ac yn yr adroddiad blynyddol.
Aelodaeth

Richard Handover (Cadeirydd)
David Fish
Allan Leighton
Cworwm - dau

Amlder y cyfarfodydd

O leiaf yn chwarterol, ac yn ôl yr angen.

   
    Brig 
 

Pwyllgor Archwilio a Risg - Cylch Gorchwyl

Swyddogaeth
Parthed archwilwyr allanol:

  • Ystyried penodi'r archwilwyr allanol ac asesu eu hannibyniaeth, gan ofalu bod partneriaid allweddol yn newid yn eu tro fel y bo'n briodol. Goruchwylio'r broses o ddewis yr archwilwyr allanol a gwneud yr argymhellion priodol i'r Bwrdd.
  • Cytuno ar y ffi archwilio a chymeradwyo ymlaen llaw unrhyw ffioedd mewn perthynas â gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio a ddarperir gan yr archwilwyr allanol, a sicrhau nad yw'r ddarpariaeth o wasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio yn amharu ar annibyniaeth a gwrthrychedd yr archwilwyr allanol.
  • Trafod a chytuno â'r archwilwyr allanol, cyn cychwyn y gwasanaethau, natur a chwmpas y gwaith i'w wneud gan yr archwilwyr allanol, ac adolygu gweithdrefnau'r archwilwyr parthed rheoli ansawdd a'r camau sy'n cael eu cymryd i ymateb i newidiadau mewn gofynion rheoleiddiol ac eraill.
  • Adolygu llythyr rheoli'r archwilwyr allanol ac ymateb y rheolwyr.
Parthed yr archwilwyr mewnol:
  • Adolygu cwmpas a rhaglen y gweithgareddau archwilio mewnol er mwyn sicrhau bod sylw parhaus yn cael ei roi i risgiau busnes, prosesau a rheolaethau allweddol.
  • Gofalu bod yr archwilio mewnol yn mabwysiadu safonau proffesiynol, yn cael digon o adnoddau ac yn cael cydnabyddiaeth briodol oddi mewn i'r cwmni.
  • Cymeradwyo penodi neu ddiswyddo'r Cyfarwyddwr Archwilio Mewnol a Rheoli Risg.
  • Adolygu adroddiadau archwilio mewnol a rheoli busnes ynghylch pa mor effeithlon yw systemau'r cwmni ar gyfer adrodd ariannol, rheolaeth fewnol a rheoli risg.
  • Ystyried ymateb a chynnydd y rheolwyr o ran delio ag argymhellion o bwys gan archwilio mewnol neu allanol.
Parthed y cyfrifon:
  • Adolygu, a herio pan fo angen, y gweithrediadau a'r farn gan y rheolwyr mewn perthynas â'r datganiadau ariannol dros dro a blynyddol cyn eu cyflwyno i'r Bwrdd, gan roi sylw penodol i:
    a. Polisïau ac arferion archwilio, gan gynnwys newidiadau.
    b. Penderfyniadau ag angen elfen sylweddol o farn.
    c. Y graddau y mae trafodion anghyffredin yn dylanwadu ar y datganiadau ariannol a sut y cafodd y rhain eu datgelu.
    d. Digonolrwydd ac eglurdeb datgeliadau.
    e. Cymwysiadau o bwys sy'n deillio o archwilio allanol.
    f. Y rhagdybiaeth busnes hyfyw.
    g. Cydymffurfio â safonau archwilio.
    h. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol/rheoleiddiol.
    i. Adolygu datganiad y cwmni ar systemau rheolaeth fewnol cyn iddo gael ei gadarnhau gan y Bwrdd ac adolygu'r polisïau a'r broses ar gyfer adnabod ac asesu'r risgiau y mae'r cwmni'n agored iddynt a rheoli'r risgiau hynny gan y cwmni.
Swyddogaethau eraill:
  • Adolygu dulliau gweithredu'r cwmni ar gyfer trafod honiadau gan chwythwyr chwiban.
  • Derbyn ac adolygu adroddiadau cyson gan y Pwyllgor Rheoli Risg Corfforaethol (is-bwyllgor o'r Pwyllgor Archwilio a Risg).
Aelodaeth

Bob Wigley (Cadeirydd)
John Neill
Fonesig Prosser
Cworwm - 2 Gyfarwyddwr

Amlder y cyfarfodydd

Chwarterol, ac yn ôl yr angen.

   
 
    Brig 
 
© Grŵp y Post Brenhinol ccc 2004. Cedwir pob hawl. Telerau ac Amodau  Polisi Preifatrwydd  Yn Saesneg