|
Gwasanaethau eraill
Bills Online™
Ar gael hefyd yn yr Almaen mae gwasanaeth electronig ar gyfer cyflwyno a thalu biliau. Gan ddefnyddio'r dechnoleg we ddiweddaraf i ddiwallu anghenion y farchnad talu biliau trwy ddulliau electronig mae billsonline.com yn ehangu amrediad y gwasanaethau y gallwn ni eu cynnig i gleientiaid a chwsmeriaid.
Billsonline.com yw'r ffordd hwylus a diogel i'ch cwsmeriaid weld a storio'u biliau. Nod Billsonline.com yw ei gwneud hi'n haws nag erioed i ddelio â biliau. Ar gael i gartrefi a busnesau, mae ein gwefan ddiogel a hawdd ei defnyddio'n caniatáu i gwsmeriaid benderfynu pa filiau i'w talu a phryd i'w talu.
Yn ogystal â galluogi cleientiaid yn y DG i gyflwyno'u biliau i'w talu trwy Billsonline.com, rydym yn gobeithio ehangu ein gwasanaethau yn Ewrop. Bydd ein gwasanaeth mewn gwledydd megis yr Almaen yn galluogi cwmnïau i gyflwyno eu biliau, cyfriflenni ac anfonebau i'w cwsmeriaid a chynnig mynediad i'r gwasanaeth yn iaith y cwsmer.
Bydd y cwsmeriaid sy'n mynd i Billsonline.com yn elwa trwy gael mynediad i, a storio, amrediad o filiau mewn un lle. Bydd ganddynt fwy o reolaeth dros eu biliau, a gallant reoli arian yn well. Mae cymorth llawn ynghylch y system ar gael trwy gyfrwng e-bost, canolfan alwadau ac ar-lein.
Mae cleientiaid yn elwa o'r potensial ar gyfer arbedion hirdymor o ran costau, ynghyd â'r fantais gystadleuol o ddarparu gwasanaeth gwerth-ychwanegol i gwsmeriaid trwy'r dewis sydd ar gael. Mae yna gyfleoedd i dargedu cwsmeriaid, a'r gallu i roi negesau marchnata, gan gynnwys gwybodaeth farchnata bersonoledig ar y bil, er mwyn hwyluso marchnata un-i-un.
Byddwn yn dal i gyflwyno bilwyr newydd yn ystod y misoedd nesaf a byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau newydd i'n gwasanaeth.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynnyrch hwn, a fyddech cystal â chysylltu â lynette.brown@royalmail.com neu ymweld â gwefan Billsonline yn www.billsonline.com. |