|
Ymunodd David Burden â'r Cwmni ar 1 Tachwedd 2002 o Qantas lle roedd yn Rheolwr Cyffredinol Gweithredol, Technoleg a Gwasanaethau tan 2001. Ei swyddogaeth yn y Post Brenhinol yn gyrru'r gwaith o ddatblygu TG smart a buddsoddiadau mewn technoleg ledled y busnes ac mae ei benodiad yn dangos pa mor benderfynol yw'r Post Brenhinol o wneud y defnydd gorau o brosiectau TG mawr. Fel Prif Swyddog Gwybodaeth Qantas arweiniodd y gwaith o ddatblygu'r isadeiledd TG integredig a'r portffolio cymwysiadau ar ôl y cyfuniad gydag Australian Airlines. Cyn ymuno â Qantas, ef oedd Prif Swyddog Gwybodaeth Air Canada ym Montreal a gweithiodd hefyd gyda Bwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol Prif Weinidog Canada ar Wyddoniaeth a Thechnoleg gyda chyfrifoldeb arbennig am faterion yn ymwneud ag Ariannu Blaengareddau Diwydiannol.
|